Cynllun i roi bywyd newydd i un o hen gapeli’r gorllewin
Cynllun i roi bywyd newydd i un o hen gapeli’r gorllewin
Bydd un o gapeli’r gorllewin yn cael ei thrawsnewid er mwyn ceisio ehangu ei hapêl.
Mae Capel Bethlehem yn Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei nodi fel adeilad rhestredig Gradd II.
Ond ar ôl derbyn nawdd dros gyfnod o bum mlynedd gan Gynllun Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr, y gobaith yw cyflogi swyddog cymunedol a buddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf.
“Mae rhaid newid y defnydd o’r adeilad i fod yn aml bwrpas,” dywedodd Swyddog Cymunedol Bethlehem Newydd, Annalyn Davies.
“Nid dim ond i gynnig oedfa ar y Sul ac yna i fod yng nghau gweddill yr amser.
“Mae rhaid gwneud cysylltiad gyda’r gymuned a’u croesawu nhw i mewn at bwrpas gwahanol.
“’Falle cael caffi bach lle mae pobol yn gallu galw fewn, cael paned a chymdeithasu, creu banc bwyd ar gyfer darparu bwyd i’r banc bwyd lleol".
Llun: Google