Covid-19: Esgeulustod 'parhaus' wedi arwain at farwolaethau medd undeb
Roedd esgeulustod "parhaus" a diffyg paratoi gan Lywodraeth y DU wedi cyfrannu at y nifer "dirdynnol" o farwolaethau yn ystod y pandemig, yn ôl undeb feddygol.
Mae'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA), sy'n cynrychioli meddygon ar draws y DU, wedi dweud nad oes modd i'r GIG ddychwelyd i'r lefelau o "ddiffyg staff" a "diffyg adnoddau" maen nhw'n dweud oedd yn wynebu staff meddygol cyn i'r feirws ddechrau ymledu.
Wrth annerch cyfarfod blynyddol y BMA, mae disgwyl i gadeirydd y cyngor, Dr Chaand Nagpaul ddadlau fod pob rhan o'r GIG wedi eu "newynu", yn ôl WalesOnline.
Dywed Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU eu bod wedi cefnogi'r gwasanaeth iechyd yn gyson, gan fuddsoddi arian yn y gwasanaeth yn Lloegr er mwyn mynd i'r afael â rhestrau aros a chynyddu'r triniaethau sy'n cael eu darparu i gleifion.
Darllenwch fwy ar y stori yma.