Newyddion S4C

Disgwyl i Nicola Sturgeon alw am ail-refferendwm annibyniaeth

The Scotsman 13/09/2021
Llywodraeth Yr Alban

Mae disgwyl i Nicola Sturgeon alw am ail-refferendwm ar annibynniaeth i’r Alban yng nghynhadledd yr SNP ddydd Llun.

Yn ôl The Scotsman, bydd y prif weinidog yn ceisio darbwyllo San Steffan mai "democratiaeth sy’n bwysig".

Yn ei haraith, mae disgwyl i Ms Sturgeon ddweud: “Mae profiadau’r pandemig a’r heriau ry’n ni’n wynebu o ganlyniad yn ategu at fy safbwynt mai [galw am ail-refferendwm] yw’r ymateb cywir".

Pleidleisiodd 55.3% o bobl yn erbyn annibynniaeth i’r Alban, a 44.7% o blaid, mewn refferendwm yn 2014.

Darllenwch ragor yma.

Llun: Llywodraeth Yr Alban

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.