Covid-19: Boris Johnson i ddatgelu cynlluniau’r gaeaf ond ‘dim cyfnod clo’
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Boris Johnson gyhoeddi cynlluniau Covid-19 ar gyfer yr hydref a’r gaeaf yr wythnos hon, gyda phwyslais ar frechu yn hytrach na chyfnodau clo.
Yn ôl Sky News, mae’r Prif Weinidog Boris Johnson yn “benderfynol” o osgoi cyfnod clo arall yn Lloegr.
Dywedodd uwch-lefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae'r brechiadau yn amddiffyniad. Mae'r hydref a'r gaeaf yn dod ag ansicrwydd, ond mae'r prif weinidog yn benderfynol o beidio cael cyfnod clo arall".
Mae disgwyl hefyd i'r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ddod i benderfyniad dros y dyddiau nesaf ar frechu plant 12 i 15 oed.
Bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn adolygu'r rheoliadau yng Nghymru yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Number 10 (drwy Flickr)