Gogledd Corea yn 'tanio taflegryn pellter-hir newydd'
13/09/2021
Mae Gogledd Corea wedi dweud eu bod wedi cwblhau cyfres o ‘brofion llwyddiannus’ gyda thaflegryn Cruise newydd.
Yn ôl Al Jazeera, mae’r arf newydd a brofwyd dros y penwythnos yn gallu cyrraedd targedau sydd 1,500km (930 milltir) i ffwrdd.
Cafodd y taflegryn ei ddatblygu dros gyfnod o ddwy flynedd.
Daw hyn wrth i’r wlad barhau i ehangu ar ei gallu milwrol ar ôl i drafodaethau niwclear ddod i stop gyda'r UDA.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Korean Central News Agency