Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein gwasanaeth ar fore Mawrth, 17 Awst - o Gymru a thu hwnt.
Paratoi cynllun ar gyfer ffoaduriaid o Afghanistan- Sky News
Mae disgwyl i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson gyhoeddi cynllun ailsefydlu ar gyfer y rhai “mwyaf anghenus” fydd yn gadael Afghanistan yn dilyn meddiant y Taliban o’r wlad.
Cyfraddau diweithdra Cymru wedi disgyn i 4.1%
Mae diweithdra yng Nghymru wedi gostwng 6,000 yn y tri mis o Ebrill 2021 – Mehefin 2021.
Cwblhau her tri chopa Cymru i gefnogi ffrind â chanser
Fe fydd dyn o Sir Gaerfyrddin yn cwblhau her tri chopa Cymru i godi arian at elusen sydd wedi bod o gymorth i’w ffrind gorau ers ei ddiagnosis o fath prin o ganser.
Gall hydrogen gynhesu miliynau o gartrefi’r DU erbyn 2030- The Guardian
Mae Llywodraeth y Deyrnas unedig wedi nodi cynllun ar gyfer economi carbon isel a allai hefyd greu miloedd o swyddi.
Myfyrwraig o Ben Llŷn yn rhannu ei phrofiad o orbryder i helpu eraill
Mae merch o Langwnnadl ym Mhen Llŷn, wedi siarad am ei phrofiad o ddioddef â gorbryder a phyliau o banig ar gyfer fideo i elusen.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.