Newyddion S4C

Cwblhau her tri chopa Cymru i gefnogi ffrind â chanser

17/08/2021

Cwblhau her tri chopa Cymru i gefnogi ffrind â chanser

Fe fydd dyn o Sir Gaerfyrddin yn cwblhau her tri chopa Cymru i godi arian at elusen sydd wedi bod o gymorth i’w ffrind gorau ers ei ddiagnosis o fath prin o ganser.

Mae Dylan Jones, 22 oed, o Gwm Gwendraeth, wedi penderfynu cerdded Yr Wyddfa, Pen y Fan a Chadair Idris er mwyn codi arian at elusen y Teenage Cancer Trust.

Mae’r elusen wedi bod o gymorth mawr i’w ffrind gorau Will Beynon, 22, ers iddo dderbyn diagnosis o Ewing Sarcoma, math prin o ganser yr esgyrn.

Mae’r ddau wedi bod yn ffrindiau pennaf ers dechrau yn yr ysgol uwchradd dros ddegawd yn ôl, ac roedd clywed am ddiagnosis Will yn sioc fawr i Dylan.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Clywes i gynta' amdano fe credu diwedd Mehefin, jyst ar ôl iddo fe cael y diagnosis.

“Dwi’n cofio o’n i’n hunan-ynysu ar y pryd oherwydd o’dd Covid yn y tŷ yn y prifysgol so o’dd e’n sioc enfawr. 

“Nath e jyst ddanfon neges i fi’n gweud sori fod e heb bod mewn cysylltiad am cwpwl o wythnose oherwydd ma’ lot o stwff ‘di bod ‘mlaen a wedyn nes i gofyn ‘Gobeitho bo popeth yn iawn, fi ‘ma os ti ishe’ a wedyn nath e jyst gweud bo ‘da fe cancr a o’dd e’n sioc, sioc enfawr fi’n credu.

“Nath e ddim sinco mewn yn iawn sai’n credu am sbel fach a credu am y pedwar neu bump noson gynta’ fi’n credu o’n i jyst yn crio i gysgu, o’n i jyst yn ofan a jyst ddim yn dishgwl e yn enwedig gan un o ffrindie gore ti”.

‘Neud rhywbeth i helpu’

Wedi iddo glywed am y newyddion trist, roedd Dylan yn awyddus i helpu Will a’i deulu ym mha bynnag ffordd oedd yn bosib.

Daeth i’r casgliad y byddai’n cwblhau her tri chopa Cymru, gyda’r arian yn mynd at achos o ddewis Will.

Dywedodd Dylan: “O’n i ishe ‘neud rhywbeth i helpu ‘da’r teulu ‘cos o’n i’n teimlo mor helpless, o’n i jyst ishe ‘neud rhywbeth a wedyn pan o’n i’n treial meddwl un noson beth gallai ‘neud o’dd her y tri copa”.

Nid oedd amheuaeth pa elusen i godi arian ar ei chyfer, yn ôl Will.

Dywedodd: “Ges i’r ddiagnosis yn mis Mehefin ac newydd dechrau fy ail rownd o chemotherapi. Rwy’n cadw yn bositif ac yn ddiolchgar iawn i’r GIG, Canolfan Ganser Felindre a y Teenage Cancer Trust. Bob dydd, mae saith person ifanc 13-24 oed yn clywed y geiriau "mae gennych chi ganser.

“Nid yw Teenage Cancer Trust yn derbyn unrhyw arian gan y llywodraeth na'r GIG, felly maent yn dibynnu ar haelioni ac ymddiriedaeth eu gefnogwyr.  Mae unrhyw rodd mynd i helpu’r elusen a mae beth mae Dylan yn gwneud mynd i gwneud wahaniaeth mawr”.

Image
Wil a Dylan
Mae Will a Dylan wedi bod yn ffrindiau agos ers dechrau’r ysgol uwchradd.

Roedd Dylan wedi gosod targed o £500 yn wreiddiol ond mae £1,250 wedi eu casglu ar adeg cyhoeddi.

Mae Will yn werthfawrogol iawn o ymdrechion Dylan, ac yn ddiolchgar i bawb am eu cyfraniadau.

Dywedodd Will: “Fi wedi bod yn ffrindiau gorau gyda Dylan am dros 10 mlynedd ac mae popeth ma' Dylan yn gwneud i godi arian yn meddwl lot i fi yn personol. Mae’r roddion a’r cefnogaeth am y sialens 3 Copa Cymru dros y dyddiau diwethaf wedi bod yn anhygoel. Rwy’n werthfawrogi pob rodd a diolch i bawb am eu eiriau caredig”. 

Ychwanegodd Dylan: “Wi’n amazed faint mor hael ma’ pobol ‘di bod a ma’r negeseuon fi ‘di cael hefyd ‘da pobol, mae ‘di bod yn...ie, ma’ pobol ‘di bod yn beyond caredig”.

Fe fydd Dylan yn cwblhau’r sialens ar 8 Medi, gan gerdded y tri chopa ar yr un diwrnod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.