Newyddion S4C

Y Taliban yn datgan ‘amnest’ yn Afghanistan

Sky News 17/08/2021
Kabul, Afghanistan

Mae’r Taliban wedi cyhoeddi “pardwn cyffredinol” yn Afghanistan wrth i ddinasyddion geisio ffoi o’r wlad. 

Yn ôl Sky News, mae aelod blaenllaw o’r Taliban, Enamullah Samangani, hefyd wedi annog merched i ymuno â’r llywodraeth gan ei fod yn “rhan o gyfraith Shariah”.  

Daw hyn wrth i’r grŵp eithafol baratoi i gyhoeddi cyfraith Islamaidd yn fuan.

Yn y cyfamser, mae'r Taliban wedi cael gorchymyn i beidio â gwneud unrhyw beth a fedrai achosi ofn, gan gynnwys mynd i adeiladau llysgenhadol.

Mae Downing Street eisoes wedi cyhoeddi fod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, a’i lywodraeth yn paratoi cynllun ailsefydlu ar gyfer ffoaduriaid o Afghanistan.  

Er gwaethaf eu haddewidion, mae’r gymuned ryngwladol yn amheus o’r Taliban, gyda’r Cenhedloedd Unedig yn codi pryderon am ddyfodol merched a menywod y wlad.

Nid oedd gan ferched yr hawl i weithio, dangos eu hwynebau na gadael y tŷ heb warchodwr gwrywaidd tra roedd y Taliban mewn grym rhwng 1996 a 2001. 

Darllenwch y stori’n llawn yma.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.