Cyfraddau diweithdra Cymru wedi disgyn i 4.1%
17/08/2021
Mae diweithdra yng Nghymru wedi gostwng 6,000 yn y tri mis o Ebrill 2021 – Mehefin 2021.
Mae'r ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod nifer y bobl sy’n ddi-waith yng Nghymru bellach yn 62,000.
Er hynny, mae diweithdra wedi cynyddu 21,000 o’i gymharu’r un cyfnod rhwng Ebrill a Mehefin 2020.
Mae’r ystadegau hefyd yn dangos bod 10,000 yn llai o bobl yn cael eu cyflogi yng Nghymru o’i gymharu â 2020.
Am y ffigyrau’n llawn, cliciwch yma.