Newyddion S4C

Myfyrwraig o Ben Llŷn yn rhannu ei phrofiad o orbryder i helpu eraill

17/08/2021

Myfyrwraig o Ben Llŷn yn rhannu ei phrofiad o orbryder i helpu eraill

Mae Lois Parri o Langwnnadl ym Mhen Llŷn, wedi siarad am ei phrofiad o ddioddef â gorbryder a phyliau o banig ar gyfer fideo i elusen.

Cafodd NoPanic ei sefydlu er mwyn cynnig cymorth a chefnogaeth i bobl sydd yn dioddef â gorbryder a gwahanol ffobiâu. 

Ers mis Medi flwyddyn ddiwethaf, mae Lois, sydd yn 21 oed ac yn astudio cwrs Meistr mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, wedi bod yn gwirfoddoli gyda’r elusen.

“Mae o wedi bod yn brofiad rili anhygoel,” dywedodd wrth Newyddion S4C.

“Dwi efo profiad o ddelio gyda gorbryder a ffobia pan oeddwn ni’n oed ysgol bach.

“O’dd cael y cyfla i siarad gyda pobol eraill a helpu nhw ar yr helpline yn wbath dwi rili wedi mwynhau g’neud.”

‘Hwnna yw fy ffynhonnell fwyaf o bryder’

Yn y fideo ar gyfer NoPanic, mae Lois yn rhannu ei phrofiad o ddioddef gydag emetoffobia, sef ffobia o fod yn sâl.

Yn ôl Lois, dyma’r ffobia sydd â’r “mwyaf o ddylanwad” ar ei hiechyd meddwl.

“Hwnna yw fy ffynhonnell fwyaf o bryder rili,” eglurodd.

Image
Lois Parri
Lois Parri yn rhannu ei phrofiad o gorbryder a ffobia ar gyfer fideo elusen. [Llun: NoPanic]

“Ac mae hwnnw wedi bod yna ers – dwi’m yn rili cofio bywyd cyn hynny.

“Ond, dwi wedi gwella lot dros y blynyddoedd dwetha – dwi wedi gallu mynd i’r brifysgol, byw’n fwy annibynnol, so mae hwnna wedi bod yn dda ffeindio fy annibynrwydd.”

Mae Lois yn gobeithio y bydd rhannu ei phrofiad yn helpu eraill.

Ychwanegodd: “Dwi’n siarad am fy mhrofiada’ i’n fama.

“Ella bod ‘na rhywun allan yna’n gwrando ar hwn ac yn meddwl – ti’n gwbo be’, mae hwn union fatha be’ dwi ‘di gal yn bywyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.