Gall hydrogen gynhesu miliynau o gartrefi'r DU erbyn 2030
Mae Llywodraeth y Deyrnas unedig wedi nodi cynllun ar gyfer economi carbon isel a allai hefyd greu miloedd o swyddi.
Gall tua 3 miliwn o dai yn y DU ddechrau defnyddio hydrogen carbon isel i gynhesu a choginio yn eu cartrefi yn hytrach na nwy tanwydd ffosil. Daw hyn fel rhan o gynlluniau’r llywodraeth i ddenu buddsoddiad gwerth £4 biliwn i'r economi hydrogen erbyn 2030.
Mae'r cynllun yn awgrymu y gallai hydrogen fod yn 20-35% o ddefnydd ynni'r DU erbyn 2050, gan ddarparu ynni glân yn lle olew a nwy mewn diwydiannau ynni trwm.
Mae disgwyl i’r cynllun hydrogen newydd gwerth £900 miliwn, greu 9,000 o swyddi o ansawdd uchel erbyn diwedd y ddegawd, gan gynyddu’r buddsoddiad i £13 biliwn a 100,000 o swyddi erbyn 2050.
Ond yn ôl The Guardian, mae ansicrwydd ynghylch sut bydd y llywodraeth yn sicrhau cymhorthdal teg ar gyfer y prosiectau. Mae’n bosib y bydd y costau’n cael eu hysgwyddo gan filiau cartrefi neu’r trysorlys.
Mae'r llywodraeth wedi addo mwy o eglurder ar ôl ymgynghori’n ddiweddarach eleni.
Darllenwch y stori’n llawn yma.