Newyddion S4C

Cip olwg ar benawdau'r bore

05/07/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma ein prif benawdau ar fore dydd Llun, 5 Gorffennaf.

Dyfarnu Croes y Brenin Siôr i GIG Cymru am ei ymateb i'r pandemig

Mae Croes y Brenin Siôr wedi'i ddyfarnu i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru gan y Frenhines i gydnabod ymdrech holl staff y gwasanaeth dros y pandemig. Mae’r Groes yn cydnabod gweithredoedd o “ddewrder eithriadol” wrth geisio achub bywydau pobl. Mae’r Gweinidog Iechyd ynghyd ag eraill wedi cydnabod “arloesedd” holl staff y gwasanaeth, gan ddiolch am eu hymdrechion drwy gydol y pandemig.

Disgwyl cyhoeddi manylion camau olaf llacio cyfyngiadau Covid-19 Lloegr - Sky News

Bydd Boris Johnson yn cyhoeddi ei gynlluniau i "ddychwelyd rhyddid i bobl" yn Lloegr mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun. Mae Stryd Downing wedi dweud fod y Prif Weinidog eisiau rhoi cyfle i fusnesau baratoi cyn llacio cyfyngiadau Covid-19 erbyn 19 Gorffennaf. Fe fydd camau olaf y broses o lacio cyfyngiadau dros y ffin yn cael eu cyhoeddi yn llawn wythnos nesaf.

Newid i reolau ymweld ag ysbytai yng Nghymru

Bydd modd i bobl ymweld â chleifion mewn ysbytai yng Nghymru o ddydd Llun ymlaen, os bydd camau caeth yn cael eu dilyn. Mae'r canllawiau newydd yn galluogi i holl fyrddau iechyd ddefnyddio profion llif unffordd er mwyn "cefnogi ymweliadau ag ysbytai". 

Awdurdodau'n dymchwel gweddillion twr yn Florida - The Washington Post 

Mae'r awdurdodau yn Florida wedi dymchwel gweddillion twr oedd wedi disgyn yn rhannol 11 diwrnod yn ôl. Cafodd degau eu claddu dan weddillion Twr Champlain yn nhref Southside, ac fe benderfynwyd dymchwel gweddill yr adeilad gan fod Storm Elsa yn bygwth taro'r arfordir yn fuan.

Ymateb i ganfyddiadau adroddiad pensiwn gweithwyr glo yn 'slap yn y wyneb' - The National Cymru

Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn beirniadaeth am ei ymateb i adroddiad ym mis Ebrill ddaeth i'r casgliad ei fod wedi elwa o £4.4bn o Gynllun Pensiwn y Gweithwyr Glo. Mae gweinidogion wedi gwadu hyn, gan awgrymu y dylai'r trefniant presennol o ddosbarthu gwarged 50:50 gael ei adolygu er tecwch a lles pensiynwyr yn y dyfodol. Mae'r ymateb yma'n "slap yn y wyneb" medd cadeirydd y pwyllgor oedd yn gyfrifol am yr adroddiad gwreiddiol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.