Disgwyl cyhoeddi manylion camau olaf llacio cyfyngiadau Covid-19 Lloegr
Bydd Boris Johnson yn cyhoeddi ei gynlluniau i "ddychwelyd rhyddid i bobl" yn Lloegr mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun.
Mae Stryd Downing wedi dweud fod y Prif Weinidog eisiau rhoi cyfle i fusnesau baratoi cyn llacio cyfyngiadau Covid-19 erbyn 19 Gorffennaf.
Fe fydd camau olaf y broses o lacio cyfyngiadau dros y ffin yn cael eu cyhoeddi yn llawn wythnos nesaf, yn ôl Sky News.
Cafodd llacio rheolau yn Lloegr, oedd fod i ddigwydd ar 21 Mehefin, ei oedi am bedair wythnos yn sgil pryderon am achosion cynyddol amrywiolyn Delta.
Mae disgwyl i Weinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan, roi diweddariad ar sefyllfa Covid-19 yng Nghymru yn ddiweddarach ddydd Llun.
Darllenwch y stori'n llawn yma.