Newyddion S4C

Newid i reolau ymweld ag ysbytai yng Nghymru

05/07/2021
CC

Bydd modd i bobl ymweld â chleifion mewn ysbytai yng Nghymru o ddydd Llun ymlaen, os bydd camau caeth yn cael eu dilyn.  

Mae'r canllawiau newydd yn galluogi i holl fyrddau iechyd ddefnyddio profion llif unffordd er mwyn "cefnogi ymweliadau ag ysbytai". 

Fe fydd y newidiadau yn cynnig profion i rieni plant yn yr ysbyty, menywod beichiog a'u partner cefnogi neu gynorthwywyr cymorth hanfodol mewn gwasanaethau mamolaeth. 

Mae’r canllawiau newydd hefyd wedi’u newid i ganiatáu i hyd at ddau riant, gwarcheidwad neu ofalwr ymweld â phlentyn mewn ward cleifion mewnol pediatrig neu faban mewn gofal newydd enedigol, ar yr amod bod hyn yn cael ei chaniatáu gan yr awdurordau lleol o ran sefyllfa Covid-19 yn y gymuned, yn dilyn asesiad risg, ac yn gallu cadw at bellter cymdeithasol. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: "Rydym yn cydnabod bod cyfyngiadau ar ymweld yn cael effaith enfawr ar gleifion a’u hanwyliaid. Mae’r canllawiau newydd yn cefnogi byrddau iechyd i wneud newidiadau sy’n darparu hyblygrwydd pellach.

"Yn anffodus, nid yw coronafeirws wedi diflannu ac wrth i amrywiolynnau newydd fel amrywiolyn delta ddod i’r amlwg, mae’n rhaid inni fod yn wyliadwrus. Y flaenoriaeth yw diogelu pobl ond mae angen cydbwysedd rhwng diogelu pobl rhag y feirws a chefnogi llesiant y cleifion a’u hanwyliaid."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.