Newyddion S4C

Ymateb i ganfyddiadau adroddiad pensiwn gweithwyr glo yn 'slap yn y wyneb'

The National - Wales 05/07/2021
CC

Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn beirniadaeth am ei ymateb i adroddiad ym mis Ebrill ddaeth i'r casgliad ei fod wedi elwa o £4.4bn o Gynllun Pensiwn y Gweithwyr Glo.

Mae gweinidogion wedi gwadu hyn, gan awgrymu y dylai'r trefniant presennol o ddosbarthu gwarged 50:50 gael ei adolygu er tecwch a lles pensiynwyr yn y dyfodol.

Mae'r ymateb yma'n "slap yn y wyneb" medd cadeirydd y pwyllgor oedd yn gyfrifol am yr adroddiad gwreiddiol.

Daeth y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i'r casgliad ym mis Ebrill y dylai'r llywodraeth ddosbarthu £1.2bn i gyn-lowyr, gan fod y llywodraeth yn elwa o gadw hanner unrhyw warged o'r cynllun pensiwn fel y mae.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Llun: HHA124L

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.