Newyddion S4C

Dyfarnu Croes y Brenin Siôr i GIG Cymru am ei ymateb i'r pandemig

05/07/2021
NS4C

Mae Croes y Brenin Siôr wedi'i ddyfarnu i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru gan y Frenhines i gydnabod ymdrech holl staff y gwasanaeth dros y pandemig. 

Daw hyn wrth i’r gwasanaeth ddathlu 73 mlynedd ers cael ei sefydlu.

Mae’r Groes yn cydnabod gweithredoedd o “ddewrder eithriadol” wrth geisio achub bywydau pobl.

Mae’r Gweinidog Iechyd ynghyd ag eraill wedi cydnabod “arloesedd” holl staff y gwasanaeth, gan ddiolch am eu hymdrechion drwy gydol y pandemig.

Dywedodd Eluned Morgan: “Mae staff wedi gwneud gwaith anhygoel dros nifer o fisoedd, yn ystod un o’r cyfnodau anoddaf yn hanes y GIG. Hoffwn dalu teyrnged i bob un ohonoch am yr arloesedd a’r agwedd broffesiynol a phenderfynol rydych wedi dangos.

“Gwn eich bod wedi gweithio oriau hynod o hir a’ch bod chi a’ch teuluoedd wedi teimlo pwysau mawr dan yr amgylchiadau heriol hyn.

“Rydych chi wedi bod gyda chleifion pan nad oedd modd i’w teulu fod yno. Rydych chi wedi cynnal rhaglen frechu y mae ein cenedl yn falch ohoni, ac rydw i am ddiolch i bob un ohonoch chi.

“Mae’r wobr hon nid yn unig yn cydnabod y rhai sy’n gweithio yn y Gwasanaeth heddiw, ond hefyd bawb sydd wedi gweithio yn y sefydliad amhrisiadwy hwn dros yr holl flynyddoedd ers ei greu.”

Mae Prif Weithredwr GIG Cymru hefyd wedi diolch i holl staff y gwasanaeth am eu hymdrechion.

Dywedodd Andrew Goodall: “Mae gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd ledled Cymru wedi dangos gwydnwch, angerdd, proffesiynoldeb ac ymroddiad drwy gydol un o heriau mwyaf ein hoes.

“Mae’r wobr heddiw’n deyrnged addas i staff y Gwasanaeth, ond rwy’n gwybod y byddai’r rhai sy’n gweithio ynddo yn falch o ymuno â mi wrth gydnabod cyfraniad pawb sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Iechyd hefyd.

“Mae hyn yn cynnwys cydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol, gweithwyr allweddol a gwirfoddolwyr sydd wedi camu ymlaen pan oedd eu hangen. Mae hefyd, wrth gwrs, yn cynnwys y cyhoedd sydd wedi aberthu cymaint ar hyd y ffordd. Mae’r ymateb wedi bod yn un ar y cyd rhwng pawb."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.