Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma grynodeb o rai o'n prif straeon ar fore dydd Iau, 3 Mehefin.
Boris Johnson i gwrdd â Mark Drakeford i drafod cynllun adfer Covid-19 - WalesOnline
Fe fydd Boris Johnson yn cynnal cyfarfod gydag arweinwyr Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ddydd Iau. Bwriad y cyfarfod fydd trafod sut y bydden nhw'n cydweithio â'u gilydd i geisio adfer y Deyrnas Unedig yn sgil y pandemig.
Y rheolau all newid yn adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal eu hadolygiad tair wythnos o gyfyngiadau Covid-19 ddydd Gwener. Yn ôl Llywodraeth Cymru, os bydd yr amodau o ran iechyd y cyhoedd yn aros yn “gadarnhaol”, bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf yn ystyried newidiadau pellach o ran cwrdd â phobl, cynyddu nifer y bobl all gwrdd yn yr awyr agored a chaniatáu i ddigwyddiadau mwy o faint gael eu cynnal dan do ac yn yr awyr agored.
‘Protest ydy Pride’: Sut fydd y gymuned LHDT+ yn dathlu mis Balchder eleni?
Mae Mehefin yn nodi mis Balchder, sydd yn dathlu'r gymuned LHDT+ ar draws y byd. Eleni, fe fydd llawer o ddigwyddiadau i ddathlu’r achlysur yn digwydd ar-lein.
Dirwyon yn achosi profiad negyddol i ymwelwyr Llangrannog - Newyddion S4C
Mae rhai pobl wedi derbyn dirwyon mewn maes parcio preifat yng Ngheredigion yn cael eu hannog i ymladd eu hachos. Mae un ddynes yn wynebu costau o bron i £300 ac achos llys er iddi dalu’r ffi parcio yn y lle cyntaf.
Gŵyl Ryngwladol Caeredin yn dychwelyd dros yr haf - The Scotsman
Fe fydd Gŵyl Ryngwladol Caeredin yn dychwelyd yr haf yma gydag arddangosfa tân gwyllt mawreddog yn rhan o’r arlwy. Yn ôl The Scotsman, fe fydd yr ŵyl, sydd yn cael ei chynnal am dair wythnos yn mis Awst, yn llwyfannu 170 o sioeau a chynyrchiadau mewn lleoliadau dan do a thu allan ar draws y brifddinas.
Morgannwg i groesawu torf am y tro cyntaf ers 2019
Bydd tîm criced Morgannwg yn chwarae o flaen torf am y tro cyntaf ers cyn y pandemig ddydd Iau, wrth iddynt groesawu Sir Gaerhirfryn i wythfed rownd y Bencampwriaeth. Mae hyd at 1,000 o gefnogwyr yn cael mynediad i Erddi Soffia yng Nghaerdydd, fel rhan o gynllun digwyddiadau peilot Llywodraeth Cymru.