Newyddion S4C

Dirwyon yn achosi profiad negyddol i ymwelwyr Llangrannog

Newyddion S4C 03/06/2021

Dirwyon yn achosi profiad negyddol i ymwelwyr Llangrannog

Mae rhai pobl wedi derbyn dirwyon mewn maes parcio preifat yng Ngheredigion yn cael eu hannog i ymladd eu hachos.

Mae un ddynes yn wynebu costau o bron i £300 ac achos llys er iddi dalu’r ffi parcio yn y lle cyntaf.

Yng nghanol pentref Llangrannog, mae maes parcio â chamera yn cadw golwg ac yn cofnodi bob rhif cofrestru sydd yn mynd ac yn dod, a hynny at bwrpas dirwyo. Os nad yw’r bobl yn talu ffi ddyledus o fewn 10 munud, fe fydd d
dirwy o £100 yn cael ei chyflwyno.

Yn ôl adroddiadau, mae yna bryder cynyddol am effaith dirwyon maes parcio ar enw da pentref Llangrannog. 

Mae Pwyllgor Lles Llangrannog wedi dweud eu bod wedi derbyn cannoedd o gwynion gan bobl am y maes parcio.

Mae Carwen Davies o Gei Newydd yn mynnu ei bod hi wedi talu ffi yn ystod haf 2019, er hyn mae hi’n wynebu achos llys posib.

“Fe ges i ddau lythyr gynno cwmni wedyn yn dweud bod nhw’n mynd i ddanfon y bailiffs,” dywedodd Ms Davies.

Image
Newyddion S4C
Carwen Davies o Gei Newydd. [Llun: Newyddion S4C]

“Ac yn gofyn am £273. Roedd y ddirwy wreiddiol yn £60. 

“Felly, mae costau wedi mynd ar ben hynna wedyn a ‘di codi’r swm. A’r peth ydi bo’ fi wedi talu’r parcio – dyna’r peth.”

Mae profiadau negyddol pobl a’r effaith posib ar fusnesau lleol yn bryder mawr yn ôl y Cynghorydd sir lleol. 

“Beth ddigwyddith yn y dyfodol? Allai’m dweud,” dywedodd Cynghorydd Gwyn James.

“Achos mae enw gwael yn mynd mas. Dim i Langrannog, dewch i Langrannog byddwn ni’n gweud, ond mae enw gwael i’r maes parcio.”

Dywedodd One Parking Solutions sydd yn rhedeg y maes parcio, eu bod nhw’n cydymffurfio gyda chod ymddygiad cymdeithas parcio Prydain, ac os nad yw pobl yn talu ffi parcio, yna mae yna broses gyfreithiol a chostau ynghlwm â hynny.

Mae’r cwmni’n dweud bod yr amodau’n glir ar arwyddion y maes parcio. 

Ond mae rhai ymwelwyr wedi dweud na fydden nhw’n dychwelyd i Langrannog ar ôl eu profiadau chwerw yn y maes parcio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.