Newyddion S4C

Morgannwg i groesawu torf am y tro cyntaf ers 2019

03/06/2021
NS4C

Bydd tîm criced Morgannwg yn chwarae o flaen torf am y tro cyntaf ers cyn y pandemig ddydd Iau, wrth iddynt groesawu Sir Gaerhirfryn i wythfed rownd y Bencampwriaeth.

Mae hyd at 1,000 o gefnogwyr yn cael mynediad i Erddi Soffia yng Nghaerdydd, fel rhan o gynllun digwyddiadau peilot Llywodraeth Cymru.

Fe fydd yn rhaid i’r rhai sy’n mynychu gymryd prawf PCR a phrawf llif unffordd Covid-19 cyn y digwyddiad.

Cafodd 3,000 o gefnogwyr yr Elyrch fynychu’r gêm rhwng Abertawe a Barnsley yn Stadiwm Liberty yn gynharach ym mis Mai, gyda 900 o gefnogwyr yn cael gweld Casnewydd yn herio Forest Green Rovers hefyd.

Mae siroedd Lloegr yn cael caniatáu torfeydd mewn gemau yn ystod holl ddyddiau’r prawf.

Mae capten Morgannwg, Chris Cooke, wedi ymateb i hynny, drwy ddweud fod y sefyllfa yn “siomedig a rhwystredig” – gan ychwanegu ei fod yn gobeithio y bydd y digwyddiad peilot yn un llwyddiannus er mwyn gallu cynnal digwyddiadau ar yr un lefel â Lloegr.

Mae Pencampwriaeth y Siroedd LV Grŵp 3 yn dechrau am 11:00 ddydd Iau.

Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.