Newyddion S4C

‘Protest ydy Pride’: Sut fydd y gymuned LHDT+ yn dathlu mis Balchder eleni?

03/06/2021

‘Protest ydy Pride’: Sut fydd y gymuned LHDT+ yn dathlu mis Balchder eleni?

Mae Mehefin yn nodi mis Balchder, sydd yn dathlu'r gymuned LHDT+ ar draws y byd.

Eleni, fe fydd llawer o ddigwyddiadau i ddathlu’r achlysur yn digwydd ar-lein.

Er gwaethaf yr heriau sydd wedi wynebu’r gymuned yn sgil y pandemig, yn ôl Iestyn Wyn o’r elusen Stonewall Cymru, mae yna lawer o bethau i fod yn falch ohono.

“Fel pob rhan o gymdeithas a chymunedau gwahanol, mae’r pandemig wedi cael effaith ar y ffordd mae’r sector a digwyddiadau fel Pride yn cael eu cynnal ar draws Cymru,” dywedodd Iestyn.

“Llynedd, welon ni lot o ddigwyddiadau gwahanol yn digwydd ar-lein – oedd ‘na Prides newydd yn digwydd, oedd ‘na gylchgrawn newydd wedi dod allan – LGBTQymru.

“Mae hwnna’n rhywbeth sydd wedi dod oherwydd yr angen i ddod â phobl at ei gilydd.”

Fe fydd y tymor Balchder neu dymor ‘Pride’ yn parhau tu hwnt i Fehefin, eglurodd Mr Wyn.

“Mae’n bwysig nodi bod Mis Pride – mis Mehefin, yn amlwg yn rhywbeth sydd yn digwydd ar draws y byd,” ychwanegodd Iestyn.

“Ond yma ym Mhrydain, ‘da ni’n dathlu cyfnod Pride drwy mis Gorffennaf a mis Awst, oherwydd bod digwyddiadau gwahanol yn digwydd drwy’r cyfnod hynny.

“Felly, er enghraifft, rydym yn edrych ymlaen at weld beth fydd yn digwydd yn Yr Eisteddfod eleni, ond hefyd y Prides fwy lleol a Pride Cymru hefyd.”

Mae'r tymor hefyd yn gyfle i gofio am orffennol y gymuned, yn ogystal â'r dyfodol, a phwysigrwydd ymgyrchu.

“I ni fel elusen, rydym yn cydnabod bod Pride yn holl bwysig, nid jyst ar gyfer dod â’r gymuned at ein gilydd, fel bod o’n gyfle i ddathlu, ac yn gyfle i bobol bod efo’r bobol sydd yn debyg iddyn nhw, i ddathlu hunaniaeth nhw.

“Ond, mae’n fwy hefyd i ni fel elusen sydd yn ymgyrchu dros hawliau pobol, ‘da ni dal yn edrych yn ôl at y Pride cyntaf ‘na ddigwyddodd yn Efrog Newydd nôl yn 1970 ac yn atgoffa ein hunain mai protest ydy Pride yn y bôn.

“Mae’n gyfle i fyfyrio ac edrych yn ôl ar ein siwrne ni at le yda ni rŵan, ond hefyd, peidio bod yn barod i roi ein traed fyny a bod fel ‘na ni mae’r siwrne ar ben o ran ein hawliau ni ‘lly a lle ‘da ni isho bod.”

Llun: Stonewall

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.