Newyddion S4C

Y rheolau all newid yn adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru

03/06/2021
Pixabay

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal eu hadolygiad tair wythnos o gyfyngiadau Covid-19 ddydd Gwener.

Erbyn hyn, mae Cymru ar lefel rhybudd dau, ond gyda lefelau Covid-19 yn parhau yn isel ledled y wlad, mae hi’n bosib y bydd y cyfyngiadau yn gallu cael eu llacio ymhellach.

Mae’r gyfradd achosion fesul 100,000 o bobl dros y saith diwrnod diwethaf yng Nghymru yn 7.68 ar gyfartaledd.

Y gobaith yw y bydd Cymru yn gallu mynd i lefel rhybudd un, gyda’r hyn fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener yn dod i rym ddydd Llun, 7 Mehefin.

Er hynny, mae pryderon cynyddol am amrywiolyn India a’r effaith gall gael ar gynllun y llywodraeth. Bellach, mae 58 achos o’r amrywiolyn wedi eu cadarnhau yng Nghymru.

Ddydd Mercher, daeth galwadau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i bobl yn ardal Llandudno i gymryd prawf Covid-19 yn sgil clwstwr o achosion o amrywiolyn India yn yr ardal.

Newidiadau i’r rheolau

Yn ôl Llywodraeth Cymru, os bydd yr amodau o ran iechyd y cyhoedd yn aros yn “gadarnhaol”, bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf yn ystyried y canlynol:

  • Newidiadau pellach o ran cwrdd â phobl mewn cartrefi preifat – o bosib.
  • Cynyddu nifer y bobl all gwrdd yn yr awyr agored a nifer y bobl all fynd i weithgareddau a digwyddiadau wedi’u trefnu, gan gynnwys y nifer sy’n cael mynychu priodasau, i 50 dan do a 100 yn yr awyr agored.
  • Caniatáu i ddigwyddiadau mwy o faint gael eu cynnal dan do ac yn yr awyr agored.

Digwyddiadau torfol peilot

Mae mwy o ddigwyddiadau torfol peilot am gael eu cynnal yng Nghymru dros y pythefnos nesaf.

Rhwng 3 a 4 Mehefin, bydd 250 yn cael mynd i wylio perfformiad yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu.

Hefyd, bydd 750-1000 o gefnogwyr yn cael mynd i Erddi Sophia, Caerdydd i wylio Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerhirfryn rhwng 3 a 6 Mehefin.

Bydd y digwyddiad torfol mwyaf o ran maint y dorf yn cael ei gynnal ar 5 Mehefin, gyda 6,500 yn cael mynd i Stadiwm Dinas Caerdydd i wylio gêm gyfeillgar tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Albania. Cafodd capasiti’r digwyddiad ei godi o 4,000 wythnos diwethaf.

Yna, ar 11 a 12 Mehefin, bydd cyfranogwyr cofrestredig yn cael cymryd rhan yn Nhriathlon Abergwaun.

Nid yw hi’n glir eto beth fydd y digwyddiadau fydd yn cael eu cynnal yng Nghymru wedi hynny.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.