Dyn 19 oed wedi dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad yng Nghapel Curig

13/07/2025
A5.png

Mae dyn 19 oed wedi dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A5 yng Nghapel Curig, Sir Conwy, ddydd Sul.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua milltir i'r gogledd o Gapel Curig yn ôl Heddlu'r Gogledd. 

Derbyniodd y llu adroddiadau am 14:38 o wrthdrawiad rhwng cerbyd Audi a beic modur Yamaha. 

Fe gafodd y dyn 19 oed oedd yn gyrru'r beic modur ei gludo mewn ambiwlans awyr i'r ysbyty yn Stoke, lle mae'n parhau i dderbyn triniaeth.

Fe gafodd y ffordd ei chau ar gyfer cynnal ymchwiliad cychwynnol i'r gwrthdrawiad, ac mae'n parhau ar gau ar hyn o bryd. 

Mae'r Sarjant Alun Jones o Uned Troseddau'r Ffyrdd wedi apelio am dystion.

"Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r gwrthdrawiad, neu unrhyw un oedd yn teithio ger y lleoliad a sydd â deunydd fideo ohono, i gysylltu â ni."

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod C105730.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.