Gŵyl Ryngwladol Caeredin yn dychwelyd dros yr haf
03/06/2021
Fe fydd Gŵyl Ryngwladol Caeredin yn dychwelyd yr haf yma gydag arddangosfa tân gwyllt mawreddog yn rhan o’r arlwy.
Yn ôl The Scotsman, fe fydd yr ŵyl, sydd yn cael ei chynnal am dair wythnos yn mis Awst, yn llwyfannu 170 o sioeau a chynyrchiadau mewn lleoliadau dan do a thu allan ar draws y brifddinas.
Ar ôl iddi gael ei gorfodi i fynd yn rhithiol flwyddyn ddiwethaf, gobaith y trefnwyr eleni fydd "dangos y ffordd" i sefydliadau eraill ar sut i gynnal digwyddiadau byw drwy ddilyn canllawiau Covid-19, ac i "ailsefydlu Caeredin" fel hwb diwylliannol i'r byd.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: thisisedinburgh