Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma grynodeb o rai o'n prif straeon ar fore dydd Mercher, 2 Mehefin.
Ymestyn gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu tan Mawrth 2022
Bydd gwasanaeth olrhain cysylltiadau yn cael ei ymestyn hyd at 2022 yn dilyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Bydd £32m ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i ymestyn y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu hyd at fis Mawrth 2022.
Rhybudd melyn am stormydd i rannau o Gymru
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd i rannau o Gymru ddydd Mercher. Daeth y rhybudd i rym am 5.00 bore Mercher ac fe fydd yn parhau tan 11.00.
Tai haf: Galw ar Lywodraeth Cymru i 'ddiogelu cymunedau'
Mae’r siaradwr Cymraeg olaf ym mhentref Cwm-Yr-Eglwys, yng ngogledd Sir Benfro, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i "ddiogelu cymunedau" rhag marw yn sgil yr argyfwng tai haf. Dim ond dau o’r 50 o dai yn y pentref sydd â phobol yn byw ynddyn nhw yn barhaol erbyn hyn – ac mae’r trigolion hynny yn eu 80au, meddai Golwg360.
Teyrngedau i chwaraewr rygbi fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i chwaraewr rygbi poblogaidd fu farw mewn gwrthdrawiad beic modur ddydd Llun. Bu farw Riaz Majothi, 36 oed, yn Llanfair-ym-muallt. Roedd yn chwaraewr a hyfforddwr gyda Chlwb Rygbi'r Beddau, gyda'r clwb wedi cyhoeddi teyrnged iddo.
Dyn wedi ei heintio gyda straen newydd o ffliw adar yn China
Mae China wedi cadarnhau achos cyntaf yn y byd o berson wedi ei heintio â straen newydd o'r ffliw adar. Yn ôl Comisiwn Iechyd Gwladol China, mae'r dyn 41 oed, sy'n dod o dalaith ddwyreiniol Jiangsu, wedi ei heintio â straen H10N3.
Pryder am y bwlch digidol rhwng trefi a chefn gwlad
Mae arolwg diweddar wedi dangos y gwahaniaeth mewn safon band eang a ffôn symudol i bobl sy’n byw yn y wlad i gymharu â dinasoedd a threfi. Awgrymodd yr arolwg fod mwy na hanner pobl sydd yn byw mewn ardal wledig yn teimlo nad oedd eu mynediad i’r rhyngrwyd yn gyflym nac yn ddibynadwy.
Dilynwch ddatblygiadau diweddaraf ar ap a gwefan Newyddion S4C drwy gydol y dydd.