Ymestyn gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu tan Mawrth 2022
Bydd gwasanaeth olrhain cysylltiadau yn cael ei ymestyn hyd at 2022 yn dilyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
Bydd £32m ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i ymestyn y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu hyd at fis Mawrth 2022.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod swyddogion y gwasanaeth wedi cyrraedd 99.7% o’r achosion positif a oedd yn gymwys am gyswllt dilynol, yn ogystal â bron i 95% o gysylltiadau agos.
Dywed y llywodraeth hefyd bod yr awdurdodau lleol wedi cymeradwyo dros 12,500 o daliadau cymorth hunanynysu, taliad sy’n cael ei gynnig i helpu pobl i aros gartref a lleihau’r risg o ledaenu’r feirws.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan: “Mae Profi, Olrhain, Diogelu wedi bod yn eithriadol o effeithiol o ran cefnogi pobl sydd wedi cael prawf positif a’u cysylltiadau wrth iddynt hunanynysu – a rhoi cyngor, arweiniad a chefnogaeth iddynt. Mae hyn yn hanfodol i atal y feirws rhag lledaenu yn ein cymunedau.
“Mae blwyddyn wedi pasio ers inni sefydlu Profi, Olrhain, Diogelu fel gwasanaeth newydd sbon – ar raddfa a chyflymder a ddisgrifiodd Archwilydd Cyffredinol Cymru fel ‘eithriadol’. Mae llawer iawn o waith caled wedi digwydd ar draws GIG Cymru, awdurdodau lleol, y sector gwirfoddol a sefydliadau partner er mwyn creu rhaglen effeithiol tu hwnt i’n galluogi ni i ddiogelu Cymru. Gall pawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwasanaeth fod yn hynod o falch o’u hymdrechion.”
‘Pryder’ amrywiolion newydd
Mae swyddogion olrhain cysylltiadau a chynghorwyr sy’n gweithio i’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn gwneud gwaith olrhain cysylltiadau manylach i fynd i’r afael â’r amrywiolion sy’n “peri pryder”, medd y llywodraeth.
“Wrth inni geisio atal lledaeniad amrywiolynnau newydd sy’n peri pryder, mae swyddogion olrhain cysylltiadau profiadol yn allweddol i wneud hyn yn effeithiol ac rydym yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith hwn,” ychwanegodd Ms Morgan.
Yn ogystal ag olrhain cyswllt, mae swyddogion y gwasanaeth yn chwarae rôl allweddol yn ymdrech y llywodraeth i atal lledaeniad y feirws.
Ymhlith cyfrifoldebau'r gwasanaeth mae sicrhau bod teithwyr rhyngwladol i mewn i’r wlad yn hunanynysu a chymryd profion, cynorthwyo gyda chydlynu’r rhaglen frechu, ac yn ganolfan gyswllt ar gyfer Gwasanaeth Tystysgrifau Brechu Cymru.