Teyrngedau i chwaraewr rygbi fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i chwaraewr rygbi poblogaidd fu farw mewn gwrthdrawiad beic modur ddydd Llun.
Bu farw Riaz Majothi, 36 oed, yn Llanfair-ym-muallt.
Roedd yn chwaraewr a hyfforddwr gyda Chlwb Rygbi'r Beddau, gyda'r clwb wedi cyhoeddi teyrnged iddo.
Mewn datganiad, dywedodd y clwb: "Roedd pawb oedd â'r fraint o adnabod Riaz yn ei garu'n fawr. Yn ŵr bonheddig, fydd ein clwb â'n cymuned yn ei golli fel person gofalgar oedd ag amser i bawb, hen ac ifanc.
"Bydd ein clwb yn ei golli'n fawr, ac mae ein cariad yn mynd allan i'w deulu, ffrindiau a phawb sydd wedi eu cyffwrdd gyda'r newyddion trist hyn."
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Clwb Rygbi'r Beddau