Angen pasbort i hwylio rhwng Cymru ac Iwerddon o ddydd Llun ymlaen

stena estrid.png

Bydd angen pasbort dilys ar deithwyr fferi rhwng Cymru ac Iwerddon o ddydd Llun ymlaen.

Fe gyhoeddodd y cwmnïau fferi Stena Line ac Irish Ferries ym mis Awst y bydd angen pasbort i deithio rhwng y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Fe ddywedon nhw fod hynny’n rhan o newidiadau i reolau Llu Ffiniau’r DU.

Roedd y newidiadau yn ymwneud â “chywirdeb a chyfanrwydd data teithwyr cyn iddynt fynd ar fwrdd y llong,” medden nhw ar y pryd.

Yn ôl y Swyddfa Gartref, does dim newid i’r ddeddfwriaeth, a’r cwmnïau unigol sydd wedi gwneud y penderfyniad.

Roedd galwadau am ohirio’r newid, gydag Aelod Seneddol Ynys Môn, Llinos Medi, yn dweud wrth Newyddion S4C ei bod wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref.

Ond bydd y newid yn dod i rym ar 28 Medi.

Cyn dydd Llun, nid oedd rhaid i deithwyr ddangos pasbort bob tro, ond weithiau roedd gofyn iddynt gyflwyno math arall o brawf adnabod, fel trwydded yrru.

Dywedodd Stena Line y bydd angen i bob person sy’n teithio rhwng Caergybi a Dulyn neu Abergwaun a Rosslare ddangos pasbort cyn teithio. Ni fydd unrhyw fath arall o brawf adnabod yn cael ei dderbyn, meddai’r cwmni.

‘Pasbort dilys’

Ychwanegodd y cwmni fod y rheol yn berthnasol i bob teithiwr.

“Mae’r tîm gwasanaeth cwsmeriaid wrthi’n cysylltu â chwsmeriaid sydd eisoes wedi archebu taith er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth lawn yn ystod y newid hwn,” meddai’r cwmni wrth gyhoeddi’r newid.

Mewn datganiad tebyg, dywedodd Irish Ferries: “Bydd gofyn i bob teithiwr, gan gynnwys dinasyddion Iwerddon a Phrydain, sy’n teithio rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Phrydain, i’r ddau gyfeiriad, deithio gyda phasbort dilys.”

Mae’r cwmni’n annog teithwyr i sicrhau bod ganddynt basbort neu gerdyn pasbort dilys cyn cyrraedd y porthladd.

O dan gytundeb yr Ardal Deithio Gyffredin, sydd wedi bodoli ers dros ganrif, nid oes gofyniad cyfreithiol i ddinasyddion Iwerddon a Phrydain gael pasbort er mwyn teithio rhwng Iwerddon a’r Deyrnas Unedig.

Ond mae rhai cwmnïau hedfan wedi mynnu bod teithwyr yn dangos pasbort cyn mynd ar awyren.

Yn ôl data Cyfrifiad 2021, roedd gan 86.5% (51.6 miliwn) o bobl yng Nghymru a Lloegr basbort, ac roedd 13.5% (8 miliwn) heb un.

Bydd newid arall yn dod i rym i deithwyr ddydd Iau, 1 Hydref, pan fydd Porthladd Caergybi yn rhoi’r gorau i dderbyn arian parod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.