Pryder am y bwlch digidol rhwng trefi a chefn gwlad

Pryder am y bwlch digidol rhwng trefi a chefn gwlad

Mae arolwg diweddar wedi dangos y gwahaniaeth mewn safon band eang a ffôn symudol i bobl sy’n byw yn y wlad i gymharu â dinasoedd a threfi.

Awgrymodd yr arolwg fod mwy na hanner pobl sydd yn byw mewn ardal wledig yn teimlo nad oedd eu mynediad i’r rhyngrwyd yn gyflym nac yn ddibynadwy.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cydweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas unedig mewn maes sydd heb ei ddatganoli, a bod gan 95% o eiddo yng Nghymru gysylltiadau â band eang "cyflym iawn".

Un o’r rhai sy'n pryderu yw Pat Thomas sydd yn byw yn Trapp yn Sir Gaerfyrddin.

“Byddwch chi arno a wedyn o fewn pum munud mae ‘di rhewi,” dywedodd Pat wrth raglen Newyddion S4C.

“Mae fe wedi cyrraedd i rhai yn yr ardal, ond ddim i bawb.

“Ni wedi bod yn trial drwy cyngor cymuned ond yn trial eto, achos maen nhw’n deud bod pawb yn gallu cael e, dim ond gofyn yn dyfe?

“Wel, ni wedi gofyn a mae raid i fi gyfaddef ges i lythyr bach neis ac oeddyn nhw moyn £20,000.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Yn dilyn buddsoddiad gwerth £200bn, mae gen 95% o eiddo yng Nghymru gysylltiad â band eang cyflym iawn.

“Rydym yn parhau i gyd-weithio, mewn maes sydd heb ei ddatganoli, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, er mwyn sicrhau bod y buddsoddiad yn dywallu anghenion cefn gwlad Cymru.”

Mae cwmni Openreach wedi cyflwyno cynlluniau i gysylltu band llydan ffeibr llawn i 415,000 o gartrefi ychwanegol yng Nghymru.

Ond, mae signal ffôn yn parhau i fod yn broblem i rai.

“Does dim sôn am 4G, 3G, dim byd,” dywedodd Caryl Haf o Llanddewi Brefi yng Ngheredigion.

“Dipyn o ofid i ddweud y gwir. Os mae rhywbeth yn mynd yn anghywir a chi moyn cael gafael ar rhywun a does ‘na ddim signal ffôn.

“Mae bywyd amaethyddol i ni gyd yn gwybod yn fywyd eitha unig o dro i dro. Efallai weithie dim ond un person sydd ar y fferm.

“Felly mae fe yn ofidus.”

Dywedodd Elinor Williams o Ofcom Cymru fod cynlluniau yn eu lle i helpu.

“Mae ‘na raglen shared rural network sydd yn cael ei rhannu rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r darparwyr i fynd i’r afael â’r broblem a gwella argaeledd ffôn symudol.

“Cymru sydd yn mynd i fod yn elwa fwyaf o hyn. Felly, ni mynd i weld gwelliant yn y signal ffôn.”