Rhybudd melyn am stormydd i rannau o Gymru
02/06/2021
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd i rannau o Gymru ddydd Mercher.
Daeth y rhybudd i rym am 5.00 bore Mercher ac fe fydd yn parhau tan 11.00.
Yn ôl y rhagolygon, fe all cawodydd trwm ddisgyn mewn rhai ardaloedd o'r de, gyda hyd at 15-20mm mewn mannau.
Mae rhybudd y Swyddfa Dywydd yn pwysleisio mai de orllewin Cymru fydd yn gweld y gwaethaf o'r storm, gan gynnwys rhannau o Sir Abertawe a Sir Benfro.
Fe all y storm achosi oedi ar y ffyrdd, gan gynnwys y posibilrwydd o lifogydd a fe all rhai cartrefi brofi toriad ar eu cyflenwad trydan.