Newyddion S4C

Dyn wedi ei heintio gyda straen newydd o ffliw adar yn China

Mail Online 02/06/2021
Ffliw adar

Mae China wedi cadarnhau achos cyntaf yn y byd o berson wedi ei heintio â straen newydd o'r ffliw adar.

Yn ôl Comisiwn Iechyd Gwladol China, mae'r dyn 41 oed, sy'n dod o dalaith ddwyreiniol Jiangsu, wedi ei heintio â straen H10N3.

Roedd rhaid i'r dyn fynd i'r ysbyty ar Ebrill 28 ar ôl datblygu twymyn a symptomau eraill, meddai’r comisiwn mewn datganiad.

Cafodd ddiagnosis bod ganddo firws y ffliw adar H10N3 ar Fai 28, ond nid oes manylion ar sut cafodd y dyn ei heintio, yn ôl Mail Online.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.