Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Mae'n ddydd Mawrth a dyma'ch diweddariad dyddiol o'r prif straeon ar ein hafan, o Gymru a thu hwnt.
Ailenwi amrywiolion Covid-19 i osgoi 'stigma' - The Independent
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi awgrymu ailenwi amrywiolion Covid-19 er mwyn osgoi 'stigma' yn erbyn gwledydd sy'n adnabod amrywiolion newydd o'r feirws. Dywed y corff y dylai'r amrywiolion gael eu henwi ar ôl llythrennau Groegaidd.
Ansicrwydd wrth i ddiwedd gwaharddiad dadfeddiant agosáu - The National Wales
Mae rhentwyr yn wynebu ansicrwydd wrth i waharddiad ar ddadfeddiant ddod i ben yng Nghymru ddiwedd y mis. Daeth y gwaharddiad, sy'n rhwystro pobl rhag mynychu cartrefi gyda hysbysiad o ddadfeddiant, i ben yn Lloegr ddydd Llun.
Mwy o dywydd poeth i Gymru wedi heulwen Gŵyl y Banc
Fe allai Cymru brofi mwy o dywydd poeth ddydd Mawrth wedi un o ddiwrnodau cynhesa'r flwyddyn ar Ŵyl y Banc. Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y bydd lefelau UV yn uchel, gyda'r paill yn gymedrol.
Diwrnod hanner awr yn hirach i ysgolion Lloegr - The Sun
Bydd ysgolion yn Lloegr ar agor am hanner awr yn hirach bob dydd dan gynlluniau newydd posib. Bwriad y cynllun fyddai galluogi disgyblion i gwblhau gwersi a gafodd eu colli oherwydd cyfnodau clo.
Euro 2020: Ymgyrch i glywed mwy o siantiau Cymraeg
Mae cystadleuaeth wedi cael ei lansio i glywed mwy o siantiau pêl-droed yn y Gymraeg. Mae'r ymgyrch gan y Mentrau Iaith a CPD Cymru yn cynnwys tair adran - cynradd, uwchradd ac oedolion, gyda rhestr fer wedi ei chyhoeddi am bob categori.
Cofiwch ddilyn y diweddaraf ar ap a gwefan Newyddion S4C drwy gydol y dydd.