Ailenwi amrywiolion Covid-19 i osgoi 'stigma'
01/06/2021
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi ailenwi amrywiolion Covid-19 er mwyn osgoi achosi 'stigma'.
Mae'r corff wedi dweud y dylai llythrennau'r wyddor Roegaidd gael eu defnyddio i gyfeirio at yr amrywiolion er mwyn sicrhau nad yw gwledydd yn cael eu stigmateiddio am gofnodi amrywiolyn newydd o'r feirws.
Dan y newid i'r enwau, fyddai'r amrywiolyn a gafodd ei adnabod yn gyntaf yng Nghaint yn cael ei alw'n Alffa a'r amrywiolyn a gafodd ei adnabod yn gyntaf yn India wedi ei enwi'n 'amrywiolyn Delta', yn ôl The Independent.
Darllenwch y stori'n llawn yma.