Rygbi: Tomos Williams yn ymuno â'r Saracens
Bydd mewnwr Cymru, Tomos Williams, yn ymuno â chlwb Saracens y tymor nesaf.
Ar ôl cyhoeddi ei fod yn gadael Caerloyw ar ôl dau dymor, daeth cadarnhad ar Ddydd Nadolig bod y gŵr o Dreorci am ymuno â’r clwb, sydd wedi’i leoli yn Llundain.
Fe symudodd Williams, 30 oed, o Rygbi Caerdydd i Gaerloyw yn 2024.
Fe enillodd gwobr chwaraewr y tymor yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor diwethaf, cyn cael ei alw i garfan y Llewod.
Mae wedi sgorio 16 o geisiau mewn 67 o ymddangosiadau dros Gymru.
Wrth gyhoeddi fod Williams yn ymuno â’r clwb, dywedodd y Saracens: “Rydym wedi gwerthfawrogi Tomos ers peth amser, ac rydym yn credu y bydd yn ychwanegiad cryf i’r garfan.”
Dywedodd Williams ei fod yn edrych ymlaen at “ddechrau’r bennod nesaf yn fy ngyrfa gyda Saracens.”