Dinbych yn paratoi i 'rolio’r gasgen' ar Ddydd San Steffan

Merched

Bydd cystadleuaeth rholio’r gasgen yn dychwelyd i Ddinbych ar ddydd San Steffan eleni am y 65ain tro.

Bob blwyddyn mae cystadleuwyr yn mynd benben wrth rolio casgenni lawr Stryd Fawr Dinbych.

Mae’n gystadleuaeth ar gyfer pobl o bob oed gyda chategorïau dynion a menywod unigol ynghyd â thimoedd a chategori ar gyfer yr ieuenctid.

Bydd y cyfan yn dechrau toc wedi 10.00 ar 26 Ragfyr.

Cynhelir y digwyddiad blynyddol gan Glwb Rotari Dinbych ac yn ôl un o aelodau’r clwb, Ifor John Jones, mae wedi dod yn “draddodiad.”

Mae wedi ei chynnal bob blwyddyn heblaw am 2020 a 2021 pan oedd angen cymryd hoe oherwydd Covid.

“Mae pobl y dref i gyd yn gwybod amdano ac mae ‘na dorf yno bob blwyddyn," meddai Ifor John Jones.

“Cychwynnodd y syniad nôl yn 1958 pan oedd yr helfa yn y dref a’r holl dyrfa ac felly dyma ddechrau ar y traddodiad."

Wrth siarad â Newyddion S4C am y gwaith trefnu, dywedodd ei fod yn “lot o waith ond rydym yn gwybod beth i neud erbyn hyn".

Mae’r digwyddiad yn denu cyfraniadau drwy raffl er mwyn “cefnogi achosion da.”

Cododd y Clwb Rotari £10,000 tuag at elusennau lleol llynedd.

‘Traddodiad teuluol’

Image
Gareth yn rholio'r gasgen 2022

Mae Gareth Owen, 34 o Lanefydd a’i deulu wedi llwyddo i ennill y ras sawl gwaith.

Roedd hynny'n cynnwys ennill chwe gwaith yn olynol tan 2023 ac mae’n ei weld fel digwyddiad sy’n “llawn hwyl”.

“Mae ‘na lot o hogia wedi llwyddo yn y ras o bentref Llanefydd sydd yn beth da i ni fel pentre," meddai.

Cyn iddo ennill y ras gyntaf yn 2015, bu ei dad yn gystadleuwr brwd a lwyddodd i ennill am ddeng mlynedd yn olynol, ac mae ei frawd wedi ennill  y ras hefyd.

Wrth siarad am y grefft o rolio’r gasgen, dywedodd ei fod wedi “dysgu wrth fynd”.

“Mae’n ras reit ffyrnig rili, ti’n trio bod y cyntaf off y lein a ti ishe cyrraedd y gornel gyntaf i gal siawns o ennill y ras wyllt.”

Dywedodd fod y ras yn “hwyl i bawb” gydag ystod o bobl yn cystadlu.

Ac yntau heb gystadlu llynedd, pan holwyd iddo a fyddai’n cystadlu eleni, dywedodd “wrth wylio llynedd, on i isho rhoi y boots a menyg mlaen a trio eto, ond cawn weld am leni".

Pwysleisiodd natur gymunedol i’r digwyddiad gan ddweud ei bod yn “neis gweld gwynebe’ ti heb weld ers talwm”.

Lluniau: Clwb Rotari Dinbych a Gareth Owen

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.