Diwrnod hanner awr yn hirach i ysgolion Lloegr
01/06/2021
Mae disgwyl i'r diwrnod ysgol gael ei ymestyn yn Lloegr er mwyn galluogi disgyblion i gwblhau gwersi a gafodd eu colli oherwydd cyfnodau clo.
Bydd y newid i'r diwrnod ysgol yn rhan o gynllun £15 biliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i adfer wedi pandemig Covid-19.
Cafodd y cynllun ei gyhoeddi gan The Times yn wreiddiol ac mae'n nodi y bydd disgyblion yn wynebu o leiaf 35 awr o addysg bob wythnos.
Mae swyddogion hefyd yn ystyried blwyddyn ychwanegol i ddisgyblion Chweched Dosbarth os nad ydyn nhw'n llwyddo i gwblhau cyrsiau Safon Uwch mewn pryd, yn ôl The Sun.
Darllenwch fwy yma.