Mwy o dywydd poeth i Gymru wedi heulwen Gŵyl y Banc
01/06/2021
Gall Gymru ddisgwyl diwrnod arall o dywydd poeth ddydd Mawrth yn dilyn Gŵyl y Banc a welodd tymereddau ucha'r flwyddyn mewn mannau.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud y bydd hi'n teimlo'n boethach i nifer ddydd Mawrth, gyda digonedd o heulwen a gwyntoedd ysgafn.
Fe all Gaerdydd, Mynwy a Wrecsam weld y tymheredd yn cyrraedd 25°C yno, gyda thymheredd o hyd at 24°C yn Aberystwyth, Caernarfon a'r Drenewydd.
Mae rhybudd hefyd y bydd lefelau UV yn uchel mewn sawl rhan o Gymru ddydd Mawrth gyda lefelau'r paill yn gymedrol.
Nid oes disgwyl i'r tywydd sych barhau am yn hir, gyda chawodydd a tharanau'n bosib ddydd Mercher, er i'r tymheredd barhau'n uchel.