Euro 2020: Ymgyrch i glywed mwy o siantiau Cymraeg
Mae’r Mentrau Iaith a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn galw ar gefnogwyr pêl-droed Cymru i bleidleisio ar gyfer siant newydd i gefnogi Cymru yn eu hymgyrch yng nghystadleuaeth Euro 2020.
Yn ôl y cyrff, mae’r ymgyrch yn cael ei gynnal er mwyn clywed mwy o’r Gymraeg yn cael ei defnyddio ar y meysydd chwarae yn y dyfodol.
Wedi apêl i'r cyhoedd, mae rhestr fer o naw siant wedi eu dewis gan banel o feirniaid ar gyfer y gystadleuaeth, sydd wedi ei henwi'n ‘Gwlad y Chants’.
Bydd modd pleidleisio dros y siantiau rhwng 2 a 4 Mehefin ar gyfryngau cymdeithasol Mentrau Iaith Cymru.
“I fi mae chant pêl-droed da yn gorfod bod yn eithaf doniol, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn syml a bydd pobl yn gallu dysgu’n gloi iawn,” meddai’r sylwebydd pêl-droed, Sioned Dafydd, a fu’n beirniadu.
“Fi wastad yn mwynhau bach o hiwmor mewn chant pêl-droed!”
Bydd Cymru yn chwarae mewn gemau cyfeillgar yn erbyn Ffrainc nos Fercher (2 Mehefin) ac Albania nos Sadwrn (5 Mehefin).
Yna. fe fyddan nhw'n herio'r Swistir (12 Mehefin) a Thwrci (16 Mehefin) yn Baku, ac yn herio'r Eidal (20 Mehefin) yn Rhufain yn eu hymgyrch Euro 2020.
Y rhestrau byrion
Mae tair adran – cynradd, uwchradd ac oedolion. Ar y rhestrau byrion mae:
Cynradd
· Osian Jones, Aberaeron
· Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe
· Ysgol Gymraeg Morswyn, Caergybi
Uwchradd
· Elin ac Elain, Ysgol David Hughes, Porthaethwy
· Ffotosynthesis, Canolfan Glantaf, Caerdydd
· Gethin Ellis, Llanfair Caereinion
Oedolion
· Yr un tal, Moelfre, Powys
· Ken Thomas, Castell Nedd
· Elgan Rhys Jones, Waunfawr
Mae modd clywed y siantiau a phleidleisio ar wefan Mentrau Iaith.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans