Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C ar Ŵyl y Banc.
Dyma olwg sydyn ar rai o'r prif straeon ar ein hafan ar fore Llun, 31 Mai.
Tywydd poethaf Cymru eleni dros Ŵyl y Banc - North Wales Live
Mae Cymru wedi profi tywydd poetha'r flwyddyn hyd yma dros y penwythnos gydag ardaloedd o'r gogledd yn cael gwres o dros 23°C. Mae disgwyl i'r tymheredd gynyddu ymhellach ddydd Llun, gyda 24°C yn bosib mewn rhai mannau.
Ail Eisteddfod T yn dechrau yn Llangrannog
Fe fydd yr Urdd yn cynnal Eisteddfod rithiol am yr ail flwyddyn yn olynol oherwydd cyfyngiadau Covid-19. Eleni, fe fydd Eisteddfod T yn cael ei chynnal yn Llangrannog yn lle Caerdydd, gyda chyfranwyr yn cystadlu o bob cwr o Gymru a thu hwnt.
Gwrthbleidiau Israel yn ceisio disodli Netanyahu - Sky News
Mae'r gwrthbleidiau yn Israel yn trafod cytundeb a allai weld y Prif Weinidog Benjamin Netanyahu yn cael ei ddisodli wedi 12 mlynedd yn y rôl. Mae gan arweinwyr y gwrthbleidiau tan ddydd Mercher i ddod i gytundeb.
Rheolau newydd ar hawlio iawndal wedi gwrthdrawiad yn dod i rym - The Independent
Daw rheolau newydd ar hawlio iawndal wedi gwrthdrawiad i rym yng Nghymru a Lloegr ddydd Llun, gyda rheidrwydd newydd am dystiolaeth feddygol i brofi anafiadau atchwipio. Mae disgwyl i'r newidiadau leihau costau yswiriant i fodurwyr.
Casnewydd i herio Morecambe yn Wembley
Bydd tîm pêl-droed Casnewydd yn wynebu Morecambe ddydd Llun yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Wembley. Fe fydd yr Alltudion yn gobeithio am fuddugoliaeth er mwyn ennill dyrchafiad i Adran Un.
Cofiwch ddilyn y diweddaraf ar ap a gwefan Newyddion S4C trwy gydol y dydd.