Rheolau newydd ar hawlio iawndal wedi gwrthdrawiad yn dod i rym
31/05/2021
Mae rheolau newydd ar hawlio iawndal wedi gwrthdrawiad yn dod i rym yng Nghymru a Lloegr ddydd Llun.
Bellach, fe fydd angen dangos tystiolaeth feddygol i brofi anaf atchwipio.
Bydd porth ar-lein newydd ar gael i'w ddefnyddio ar gyfer hawliau anaf personol o hyd at £5,000, gan alluogi modurwyr i gytuno ar setliad eu hunain yn dilyn gwrthdrawiadau ffordd heb angen defnyddio cyngor cyfreithiol.
Mae disgwyl y bydd hyn yn lleihau ar gostau yswiriant i fodurwyr, yn ôl The Independent.
Darllenwch y stori'n llawn yma.