Newyddion S4C

Gwrthbleidiau Israel yn ceisio disodli Netanyahu

Sky News 31/05/2021
Benjamin Netanyahu (Fforwm Economaidd y Byd (drwy Flickr)

Mae'r gwrthbleidiau yn Israel yn agosáu at gytundeb a fedrai weld cyfnod Benjamin Netanyahu fel Prif Weinidog yn dod i ben.

Mae Mr Netanyahu wedi bod yn Brif Weinidog ar y wlad ers 12 mlynedd bellach.

Dywedodd Naftali Bennett, arweinydd plaid fach Yamina, y byddai'n ymuno â chasgliad amrywiol o wrthwynebwyr, gan gynnwys arweinydd yr wrthblaid Yair Lapid, er mwyn ffurfio llywodraeth glymbleidiol a disodli Mr Netanyahu.

Mae gan y ddau tan ddydd Mercher i ddod i gytundeb lle mae disgwyl iddyn nhw wasanaethau am gyfnod o ddwy flynedd yr un fel Prif Weinidog, yn ôl Sky News.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: World Economic Forum (drwy Flickr)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.