Maxine Hughes: 2025 yn flwyddyn 'anodd ac emosiynol'

Llun: Instagram / Maxine Hughes
Maxine Hughes

Mae'r newyddiadurwraig Maxine Hughes yn dweud bod 2025 wedi bod yn flwyddyn "anodd ac emosiynol" ar ôl iddi dderbyn triniaeth am ganser.

Flwyddyn yn ôl fe wnaeth Maxine, sydd yn wreiddiol o Sir Conwy ond bellach yn byw yn Washington D.C., deimlo lwmp yn ei brest.

Fe ddigwyddodd hynny ddiwrnod ar ôl iddi golli ei thad.

Ond fe dderbyniodd y newyddion da ym mis Awst bod y driniaeth cemotherapi wedi bod yn llwyddiannus a bod y canser wedi mynd.

Mae hi'n parhau i dderbyn triniaeth imiwnotherapi, ac ym mis Ionawr fe fydd yn cael llawdriniaeth bellach.

Dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod yn dal yn teimlo fel bod hi "dal ar y ton" mewn blwyddyn sydd wedi teimlo fel "swnami".

“Dwi methu coelio mae wedi bod yn flwyddyn ers i fi ffeindio’r lwmpyn," meddai.

“Oedd popeth yn digwydd tua blwyddyn yn ôl, oedd Dad yn sâl iawn a wedyn o’n i’n gorfod dod drosodd i Gymru lot i fod gyda Dad.

“Nath Dad farw jyst cyn ‘Dolig a wedyn nes i ffeindio’r lwmpyn y diwrnod nesa’.

“O’dd o’n teimlo fel bod swnami wedi dechra’, a fi’n teimlo fel bod fi dal ar y ton.

“Dwi jyst yn teimlo hefyd bod fi’n lwcus iawn achos neshi teimlo’r lwmpyn, neshi gael triniaeth yn gyflym iawn, triniaeth ardderchog.

“A fi wedi bod yn lwcus iawn bod y chemo wedi cael gwared o’r canser."

Image
Maxine Hughes

Roedd gan Maxine fath prin o ganser yn fron, sef canser triphlyg negyddol.

Tua 10-20% o bob diagnosis canser y fron yw'r math yma, ac mae'n anoddach i'w drin.

Bu'n rhaid iddi orfod camu yn ôl o'i gwaith fel newyddiadurwraig wrth i'r driniaeth ddwysau, sydd wedi bod yn anodd i Maxine.

“Ar hyn o bryd dwi yn bendant yn teimlo effaith y chemo achos geshi chemo cryf iawn, a dwi wedi gorfod stopio neud gymaint o waith a wedi stepio ’nôl dipyn bach.

“Dwi’n gobeithio ar ôl yr ail llawdriniaeth fyddai’n gallu dechra ail-gydio gyda gwaith, gyda bywyd normal.

“Fel ‘ma pobl sydd wedi bod trwy canser yn gwybod, ma’n effeithio y corff ond ma’ hefyd yn effeithio ar lefel emosiynol a fi jyst angen bach o amser i wella."

Cefnogaeth yng Nghymru

Ers cyhoeddi'r newyddion am ei diagnosis ym mis Gorffennaf mae Maxine Hughes yn dweud ei bod wedi derbyn cefnogaeth gan sawl person yng Nghymru.

Mae rhai o'i ffrindiau wedi teithio i Washington D.C. i roi cymorth iddi hi a'i theulu.

Ychwanegodd fod y cymorth yma yn gwneud iddi deimlo'n "nes at Gymru" er ei bod hi bendraw'r byd.

“Fi ‘di cael gymaint o negeseuon gan bobl dros Cymru a dwi dal yn cael pobl yn checo mewn ac eisiau gwybod sut dwi’n neud," meddai.

“Ma’ hwnna’n neud gymaint o wahaniaeth achos dwi’n eistedd yma yn America yn bell, bell o Gymru a ma’ gymaint o bobl jyst yn ymestyn allan a gofyn sut ma’ petha’n mynd.

“Ma’ pobl Cymru jyst mor garedig a ma’n neud fi teimlo’n nes at Gymru.

“Ma’n anodd pan ti’n mynd trwy rywbeth fel hyn achos ti’n eistedd ‘na yn meddwl ‘pam ma’ hwn wedi digwydd i fi?’

“Ma’n rili anodd credu weithia be’ ma’ pobl yn mynd trwy."

Image
Maxine Hughes
Maxine ar ôl cael ei hurddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Llun: Maxine Hughes

'Anrhydedd'

Mae pedwar mis wedi bod ers i Maxine gael ei hurddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd cael rhannu'r profiad gyda'i phlant a'i theulu yn golygu gymaint iddi ac yn "anrhydedd" yn ystod blwyddyn mor heriol.

"I gallu dod drosodd a mynd i Wrecsam a teimlo popeth nesi teimlo’r wythnos yna a bod gyda teulu, ffrindiau, pawb o Gymru, roedd o'n wych," meddai.

“Er bod y blwyddyn yma ‘di bod mor anodd, roedd y profiad yna yn anrhydedd, oedd o just yn anhygoel a fyddai byth yn anghofio fe.

“ ‘Swn i’n dweud falle diwrnod gorau fy mywyd."

Wrth edrych ymlaen at y flwyddyn newydd, mae gan Maxine ambell brosiect cyffrous ar y gweill.

“ ‘Dan ni’n aros yn America am y ‘Dolig, fyddai gyda’r plant a wedyn dwi’n bwriadu dod draw i Gymru jyst ar ôl y blwyddyn newydd ar gyfer ffilmio gyda S4C.

“Dwi’n gobeithio dal lan gyda teulu a ffrindiau yng Nghymru, byddai hefyd yn neud tipyn bach gyda Welcome to Wrexham a jyst dechrau gweithio eto."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.