Trump a Zelensky i gwrdd yn Florida i drafod cynllun heddwch Wcráin
Fe fydd Donald Trump a Volodymyr Zelensky yn cwrdd yn Florida ddydd Sul i drafod dod â'r rhyfel rhwng Rwsia ac Wcráin i ben.
Dywedodd Arlywydd Wcráin y byddai gwarantau diogelwch a materion tiriogaethol yn rhanbarthau Donetsk a Zaporizhzhia ymysg y pynciau a fydd yn cael eu trafod.
Fe wnaeth Mr Zelensky gwrdd â Phrif Weinidog Canada Mark Carney ddydd Sadwrn cyn teithio i UDA.
Dywedodd fod y cynllun heddwch drafft yn cynnwys ymrwymiad gan UDA i ddarparu gwarantau sy'n adlewrychu Erthygl 5 cynghrair NATO, a fyddai'n golygu y byddai ymosodiad ar Wcráin yn arwain at ymateb milwrol ar y cyd gan yr Unol Daleithiau a'i chynghreiriaid.
Ddiwrnod cyn y trafodaethau, fe ymosododd Rwsia ar Kyiv gyda thaflegrau a dronau, gan ladd o leiaf un person.
Ychwanegodd Mr Zelensky fod yr ymosodiad yn "dangos nad yw Putin eisiau heddwch".
Mae'r trafodaethau ddydd Sul yn rhan o ymdrech hir-dymor gan Mr Trump i sicrhau cadoediad yn Wcráin, gan ddweud yn y gorffennol y byddai'n dod â'r rhyfel i ben ar ei ddiwrnod cyntaf ar ôl cael ei ail-ethol fel Arlywydd UDA.
Ar Noswyl Nadolig, fe ddywedodd Mr Zelensky fod UDA ac Wcráin wedi cyrraedd consensws ar sawl mater pwysig, gan awgrymu hefyd ei fod yn agored i greu parth dadfilwrol ar ffin ddwyreiniol Wcráin â Rwsia.
Ond mae'n parhau i wrthod gorchmynion Rwsia fod Wcráin yn ildio dwy o'r rhanbarthau dwyreiniol, Luhansk a Donetsk.
Ychwanegodd Mr Zelensky fod cynllun heddwch tua "90% yn barod" a'i fod yn gobeithio trafod "cytundeb economaidd" a "materion tiriogaethol" gyda Mr Trump.