2026: Beth sydd i'w ddisgwyl o'r byd gwleidyddol?
2026: Beth sydd i'w ddisgwyl o'r byd gwleidyddol?
Os oedd 2025 yn flwyddyn wleidyddol fywiog, mae 2026 yn argoeli i fod yn flwyddyn wirioneddol ddigyffelyb yng ngwleidyddiaeth Cymru.
Gan gofio bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, mae darogan blwyddyn efallai’n beth ffôl - ond eto i gyd, ar drothwy 2026, dyma rai pethau y gall ddod yn realiti yn y byd gwleidyddol.
Etholiad Senedd 2026
Os oes ‘na unrhyw wirionedd fod gwleidyddiaeth y Bae yn gysglyd, efallai mai 2026 fydd y flwyddyn sy’n troi hynny ar ei ben.
Dyma etholiad Senedd sy’n addo i fod yn ddim llai na daeargryn gwleidyddol.
Ers is-etholiad Caerffili, mae’r gwynt yn sicr yn hwyliau Plaid Cymru.
Ac ar fore glawog cyhoeddi’r arolwg barn ddiweddar, dyma ddod ar draws Rhun ap Iorwerth yn llythrennol yn llamu ar draws y Bae.
“Diwrnod braf, tydi,” meddai. Ac er ei fod yn aeaf, i’r blaid sydd ar frig pob pôl piniwn dros y misoedd diwethaf, mae’n hirddydd haf i’w harweinydd.
Ond fe allai hynny newid wrth gwrs. Mae cynnal y brwdfrydedd a’r momentwm yn her ynddi ei hun.
A her arall yw gofalu nad yw hyder yn troi’n or-hyder.
I Reform UK - yr ail geffyl amlwg yn y ras – er y sioc o beidio â chipio Caerffili – bu’n berfformiad iach iawn.
Mae’n debyg eu bod am roi adnoddau mawr i’r ymgyrch.
Bydd 96 aelod yn y Senedd nesa' dan drefn bleidleisio newydd, mwy cyfrannol. 49 felly yw’r ffigwr hud sydd angen ei gyrraedd i blaid allu llywodraethu’n effeithiol.
Fe fydd cydweithio rhwng y pleidiau yn y pendraw, rhyw ffordd neu’i gilydd, yn anochel.
Digon posib gall y bargeinio barhau am wythnosau neu hyd yn oed fisoedd wedi’r diwrnod pleidleisio.
Tranc Llafur Cymru?
Fe fydd sawl stori ddifyr yn deillio o Etholiad 2026. Ond y mwyaf difyr fydd tranc posib Llafur Cymru a allai bennu dyfodol Keir Starmer hefyd.
O fewn Llafur Cymru mae yna rwystredigaeth amlwg gyda Llundain. Ond hefyd ymdeimlad anobeithiol wrth edrych at yr etholiad.
O’r Ffordd Goch Gymreig i weithio mewn partneriaeth â Llafur Llundain, mae neges y blaid yn un niwlog a digyfeiriad, ac fe fydd dyfodol Eluned Morgan sicr yn y fantol.
Ond drannoeth y ffair pwy allai gamu i’r adwy i arwain Llafur Cymru?
Swydd lawer llai deniadol yw arweinydd Llafur Cymru - sydd am dros chwarter canrif – yn dod law yn llaw â bod yn Brif Weinidog Cymru.
Mae 14 aelod, hyd yma, wedi penderfynu peidio â sefyll fis Mai - enwau mawr fel Mark Drakeford, Jeremy Miles, Jane Hutt - oll yn diflannu.
A fydd ffigyrau fel Jac Sargeant neu Ken Skates yno ar ôl i lwch yr etholiad setlo? Neu, a fydd ‘na awch am waed newydd o blith y sawl newydd yn cael eu hethol?
Fe allai fod yna wynebau cyfarwydd yno sydd â phrofiad o arwain, fel Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd.
Ond falle fydd hi ddim yn ddiwedd ar chwarae rhan mewn llywodraeth.
Realiti posib iawn yw y gall Blaid Cymru ofyn iddyn nhw gydweithio, ond y tro yma fel y blaid leiaf grymus mewn unrhyw bartneriaeth.
Senedd ar ei newydd wedd
Er bod ‘na sïon mai dechrau Mawrth fydd y Siambr yn cael ei hailagor, erbyn mis Mai fe fydd y lle ar ei newydd wedd am sawl rheswm.
Mae’n siŵr y bydd nifer o aelodau newydd yn awyddus i wneud eu marc.
Heb os fe fydd aelodau Reform UK yn bresenoldeb ac os oedd cyfraniad UKIP a’r Brexit Party yn arwydd o’r hyn y gallwn ni ei ddisgwyl, fe fydd llawr y Siambr newydd yn siŵr o ddirgrynu'n aml.
Ymhen blwyddyn fe fydd ‘na enwau cwbl newydd ar y sîn, ac o bosib felly bydd deinameg y drafodaeth ar lawr y Senedd yn newid gyda hynny.
Arweinydd Reform yng Nghymru?
Wrth ffarwelio gyda 2025 dydyn ni dal ddim callach pwy sy’n arwain Reform yng Nghymru.
Ei hunig aelod etholedig yn y Senedd wedi ei gwahardd eleni am gyfnod, colli mas ar y wobr fawr yng Nghaerffili ynghyd â'r ffaith bod eu cyn-arweinydd yng Nghrymu wedi cael ei garcharu.
Ond faint mae hyn yn poeni’r etholwyr?
Dyma blaid sy’n parhau i berfformio’n gadarn yn yr arolygon a Nigel Farage yn denu cefnogaeth gref gan gyfran helaeth o’r etholwyr.
Mae hynny’n peri’r cwestiwn felly: a oes angen arweinydd ar y blaid yn ystod yr ymgyrch?
Mae David Jones – Cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru - yn un enw sydd wedi ei grybwyll sydd wedi dweud nad yw e am y swydd.
Llŷr Powell – sydd eto i benderfynu os ydyw’n sefyll? Neu Sarah Atherton? Fe wnaeth Newyddion S4C ddatgelu ei bod am fentro i’r bae.
Ond gyda thon wyrddlas ddisgwyliedig dros y bae, mae’n sicr y bydd y cwestiwn yn codi droeon dros y misoedd i ddod.
Gwanwyn tyngedfennol i Starmer?
Wrth i 2025 dynnu at ei therfyn mae yna ymdeimlad fod cyfnod Keir Starmer wrth y llyw dan gwestiwn a mis Mai yn cael ei hystyried yn her driphlyg iddo.
Yn ogystal ag etholiad y Senedd fe fydd etholiad Senedd Yr Alban ynghyd ag etholiadau lleol Lloegr.
Ar draws Lloegr, fe all Reform berfformio’n dda iawn, ac yn Yr Alban gallai amhoblogrwydd Keir Starmer effeithio’n negyddol ar adain Albanaidd y blaid.
Ond colli Cymru allai brofi’r ergyd fwya’ i’w brif weinidogaeth.
Er gwaetha’r holl rybuddion gan Eluned Morgan ac aelodau yng Nghymru efallai bod ei sylwadau ar drothwy is-etholiad yn ddadlennol:
“Will you be going to Caerffili?”
- Saib,,,,
“Um…I don’t know if I’ll be going to Caerphilly”.
Sy’n amlygu cymaint efallai o sylw sydd wedi ei roi gan Lafur yn Llundain i’w cyfoedion Cymreig. Yn benodol mewn ardal a ystyrir yn “grud” i’r blaid.
Er mae’n ymddangos eleni fod ganddo lygaid craff ar faterion tramor – sut fydd ei berthynas yn datblygu â’r Arlywydd Trump yn Washington?
Mae yna gwestiwn am ei reddf wleidyddol hefyd wedi troeon pedol a sawl sgandal.
Hyn oll tra bod ei Faer poblogaidd ynghyd a'i Weinidog Iechyd yn awchu i gamu dros drothwy Rhif 10 yn Brif Weinidog.
Twf y pleidiau bach
Bosib iawn y gwelwn dwf y pleidiau bach ar draws Prydain.
Yn Lloegr mae’r Gwyrddion yn perfformio’n gadarn dan arweiniad Zack Polanksi.
Yng Nghymru, ymddengys bod eu cefnogaeth hefyd ar gynnydd.
Mae gan y blaid allu o fewn y misoedd nesaf i ddwyn pleidleiswyr sydd wedi syrffedu ar Lafur tra hefyd yn gallu pysgota ym mhwll pleidleiswyr posib Plaid Cymru.
Ond mae gan Blaid Cymru a’r Gwyrddion hanes o gydweithio. A fydd ‘na gyfle am gydweithio pellach yn y Senedd newydd petai’r patrwm presennol y polau piniwn yn parhau?
Er na fyddan nhw efallai yn brif blaid, gall hyd yn oed grŵp bach o Aelodau'r Democratiaid Rhyddfrydol fod yn bwysig wedi’r etholiad.
Mae’n debyg mai ymgyrch gyda ffocws ar ofal cymdeithasol sydd gyda nhw mewn golwg, gyda gofal plant yn rhan allweddol o hynny. Ond her yw cyfathrebu’r neges honno gyda rhai o’r prif bleidiau eisoes yn ymgyrchu ar yr un tocyn.
Prif lun: Nigel Farage (Jane Barlow/PA Wire), Eluned Morgan (Stefan Rousseau/PA Wire), Syr Keir Starmer (Jordan Pettitt/PA Wire), Zack Polanski (Andrew Matthews/PA Wire), Rhun ap Iorwerth (Andrew Matthews/PA Wire).