Hugh Morris, un o gewri Clwb Criced Morgannwg, wedi marw'n 62 oed

Hugh Morris

Mae cyn Gapten a Phrif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg Hugh Morris wedi marw yn 62 oed. 

Mewn teyrnged iddo ddydd Sul, dywedodd y clwb ei fod yn unigolyn "oedd yn cael ei barchu a'i edmygu yn fawr yn y gêm, ac fe fydd ei gyfraniad i griced yng Nghymru a Lloegr yn cael ei gofio'n annwyl.

"Mae ein meddyliau ni gyda'i deulu, ei ffrindiau a'i gydweithwyr yn ystod y cyfnod anodd tu hwnt yma."

Roedd Hugh Morris hefyd yn Brif Weithredwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr. 

Fe dderbyniodd ddiagnosis o ganser y coluddyn ym mis Ionawr 2022, ac er ei fod wedi dychwelyd i'r gwaith yn ddiweddarach y flwyddyn honno, fe adawodd ei rôl fel prif weithredwr Morgannwg ym mis Medi 2023 i dreulio amser gyda'i deulu. 

Fe arweiniodd Morgannwg i ennill y Gynghrair undydd ar y Sul ym 1993. 

Enillodd dri chap llawn gyda Lloegr, ac roedd yn gapten i glwb Lloegr A ar eu teithiau i Dde Affrica, India’r Gorllewin a Sri Lanka. 

Roedd hefyd yn un o noddwyr Heads Up, elusen sydd yn cefnogi ymchwil i ganser y pen a'r gwddf, wedi iddo oroesi canser y gwddf ar ôl derbyn diagnosis yn 2002. 

Dywedodd Dan Cherry, a wnaeth olynu Hugh Morris fel Prif Weithredwr Morgannwg: "Mae gan Hugh le arbennig yn hanes Criced Morgannwg yn ogystal ag yng nghalonnau cefnogwyr y Clwb am ei ymdrechion, ar ac oddi ar y cae. 

"Roedd yn ddyn egnïol, ac yn ŵr bonheddig."

Ychwanegodd: "Mae'n gadael gwaddol arbennig, yn enwedig y Stadiwm yma yng Ngerddi Soffia sydd o safon rhyngwladol - cyferbyniad gwahanol iawn i'r maes pan chwaraeodd gyntaf i Forgannwg yn ei arddegau.

"Mae ein meddyliau a'n gweddïau yn ystod y cyfnod trasig yma gyda'i wraig Debbie, eu hefeilliaid Bethan ac Emily, a holl ffrindiau Hugh ar draws y byd chwaraeon a chyn-gydweithwyr ledled y byd criced."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.