Yr actores Brigitte Bardot wedi marw'n 91 oed

BB

Mae'r actores Brigitte Bardot wedi marw'n 91 oed yn Saint-Tropez.

Fe ddaeth yn enwog yn ystod 50au a 60au'r ganrif ddiwethaf am ei rhan mewn ffilmiau oedd yn cynnwys 'And God Created Woman', 'Naughty Girl', a 'The Bride Is Much Too Beautiful'.

Yn ddiweddarach yn ei bywyd fe wnaeth ymgyrchu dros hawliau anifeiliaid ar ôl ymddeol o fyd y ffilmiau yn 1973, gan sefydlu Sefydliad Brigitte Bardot er mwyn brwydro ar eu rhan.

“Rhoddais fy ieuenctid a’m harddwch i ddynion, rhoddaf fy noethineb a’m profiad i anifeiliaid,” meddai mewn un dyfyniad enwog yn adlewyrchu ar ei bywyd.

Mewn datganiad fore dydd Sul, dywedodd Sefydliad Brigitte Bardot: "Mae Sefydliad Brigitte Bardot yn cyhoeddi gyda thristwch mawr farwolaeth ei Sylfaenydd a'i Llywydd, Mrs Brigitte Bardot, actores a chantores o fri fyd-eang, a ddewisodd roi'r gorau i'w gyrfa fawreddog er mwyn ymroi ei bywyd a'i hegni i les anifeiliaid a'i Sefydliad.

"Bydd y sefydliad yn parhau, yn fwy nag erioed, i hyrwyddo gwaith Brigitte Bardot."

Yn ei mamwlad, roedd yn cael ei hadnabod yn syml fel 'BB', cymaint oedd ei henwogrwydd.

'Chwedl y ganrif'

Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron mai hi oedd "chwedl y ganrif."

"Ei ffilmiau, ei llais, ei gogoniant disglair, ei llythrennau cyntaf, ei thristwch, ei hangerdd hael dros anifeiliaid... roedd Brigitte Bardot yn ymgorffori bywyd o ryddid.

"Bodolaeth Ffrengig, disgleirdeb byd-eang. Cyffyrddodd â ni. Rydym yn galaru chwedl y ganrif."

Cafodd Brigitte Anne-Marie Bardot ei geni ym Mharis yn 1934 i deulu llewyrchus, gan hyfforddi i fod yn falerina ac actores.

Daeth i enwogrwydd yn gyntaf yn 1952, a hynny ym myd y ffilm, cyn recordio caneuon poblogaidd yn ddiweddarach.

Fe ddaeth i ymgorffori agweddau newydd at rywioldeb a rhyddid yn ystod y 1960au.

Dywedodd Arlywydd Ffrainc Charles De Gaulle ar y pryd ei bod yng nghanol y ganrif ddiwethaf wedi bod yr un mor bwysig i Ffrainc o ran ei hallforion a chwmni ceir Renault, cymaint oedd ei dylanwad a'i phoblogrwydd.

Yn ddiweddarach yn ei bywyd fe gafodd ei beirniadu am wneud sylwadau homoffobig ac annog casineb hiliol.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.