Caerdydd: Rhyddhau dyn 51 oed ar fechnïaeth wedi i ddyn arall farw mewn ymosodiad
Mae dyn 51 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wedi i ddyn arall farw mewn ymosodiad yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf.
Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiad am ymosodiad yn Stryd Pentyrch am tua 18:15 ar 22 Rhagfyr.
Bu farw'r dioddefwr, Colm Marcus Boston, 37 oed, o'r Mynydd Bychan, ddydd Gwener yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Mae ei deulu'n cael eu cefnogi gan Swyddog Cyswllt Teulu.
Fe gafodd tri dyn eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad, ac mae'r tri bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.
Dywedodd y Dirprwy Uwch Swyddog Ymchwilio, y Sarjant Ditectif Lauren Wells, o Heddlu De Cymru: “Mae ein cydymdeimlad diffuant gyda theulu a ffrindiau Colm wrth iddynt ddod i delerau â’u colled drasig.
“Hoffwn ddiolch i’r gymuned am y gefnogaeth y maent wedi’i rhoi i’r ymchwiliad hwn hyd yn hyn a pharhau i annog unrhyw un sydd â gwybodaeth sydd heb siarad â swyddogion eto i ddod ymlaen.”
Mae swyddogion yn awyddus i dderbyn lluniau teledu cylch cyfyng a chamerâu dashcam o Heol Maindy, Stryd Pentyrch, Heol yr Eglwys Newydd, a Theras Cathays, rhwng 16:00 a 18:30 ar ddiwrnod yr ymosodiad.
Fe allai unrhyw un sydd â lluniau o’r fath gysylltu â’r llu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 2500404113.