Tywydd poethaf Cymru eleni dros Ŵyl y Banc
31/05/2021
Mae Cymru wedi profi tywydd poetha'r flwyddyn hyd yma, gyda'r tymheredd ar ei uchaf yn y gogledd.
Cafodd 23.8° Celsius ei gofnodi yn Llanfairfechan ddydd Sul, yn ôl North Wales Live.
Roedd rhannau o Ynys Môn a Gwynedd hefyd wedi profi tymheredd o tua 23°C.
Mae disgwyl i'r tywydd fod yn boethach fyth mewn rhannau o Gymru ddydd Llun, gyda'r tymheredd yn 24°C ar ei uchaf.
Darllenwch y stori'n llawn yma.