Dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth wedi marwolaeth dyn o Lanelwy ar ddydd Nadolig

Llun: Harry Turner
Harry Turner

Mae dyn 66 oed wedi ymddangos o flaen y llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth wedi marwolaeth dyn arall 68 oed o Lanelwy ar ddydd Nadolig.

Fe wnaeth James Ronald Hughes o Lanelwy ymddangos dros linc fideo o Garchar y Berwyn mewn gwrandawiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mercher.

Mae'r dyn 66 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio Harold (Harry) David Turner.

Fe ymddangosodd gyda thywel gwyrdd dros ei ddillad ac yn dal hances wrth ei ben, gyda'i gyfreithiwr Duncan Bould yn dweud nad oedd Mr Hughes yn iach.

Roedd y gwrandawiad wedi para am saith munud a dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands y byddai unrhyw achos llys yn cychwyn ar 22 Mehefin.

Cafodd James Hughes ei gadw yn y ddalfa.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i adeilad ar Stryd Fawr Llanelwy ychydig wedi 12:00 ar ddydd Nadolig yn dilyn adroddiadau am aflonyddwch.

Cafodd Harold David Turner ei gludo i'r ysbyty ond bu farw'n ddiweddarach ddydd Nadolig.

Mae'r mater wedi cael ei gyfeirio i'r Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Dyw Heddlu Gogledd Cymru heb nodi rheswm dros gyfeirio'r achos i'r IOPC.

Mae teulu Harold David Turner wedi rhoi teyrnged iddo. 

Dywedodd ei deulu: "Roedd Harry Turner yn un o chwech, ac wedi iddo adael yr ysgol, fe ymunodd â'r Llynges cyn gweithio yn Llundain, Iwerddon ac yn ei dref enedigol, y Rhyl. 

“Bydd colled fawr ar ôl Harry gan ei deulu."



 

   
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.