Person wedi ei ddarganfod yn farw wedi tân mewn tŷ yn y de

Cwmboi

Mae un person wedi cael ei ddarganfod yn farw ar ôl tân mewn tŷ yn y de.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i adroddiadau o dân mewn tŷ ym mhentref Glenboi yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf am tua 02:15 fore Mercher.

Roedd swyddogion y Gwasanaeth Tân ac Achub yn gweithio i reoli'r tân tra bod swyddogion Heddlu De Cymru yn cau ffyrdd cyfagos a symud pobl o'u tai.

Dywedodd yr heddlu bod un person wedi cael ei ddarganfod yn farw yn y tŷ oedd ar dân.

Mewn datganiad dywedodd y llu bod ymchwiliad ar y cyd yn cael ei gynnal rhwng Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynorthwyo'r ymchwiliad hefyd.

Ychwanegodd y llu y bydd ymchwilwyr yn archwilio'r safle unwaith mae'n ddiogel i wneud hynny.

Mae'r ffordd ar gau ac fe fydd yn parhau ar gau am beth amser.

Dywedodd yr heddlu bod eu meddyliau gyda theulu'r person fu farw a'r gymuned yng Nghlenboi yn ystod "y cyfnod anodd hwn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.