Dedfrydau oes i ddau fachgen am lofruddio 'tad cariadus' yn Y Barri
Mae dau fachgen wedi cael eu dedfrydu am oes am lofruddio dyn yn Y Barri y llynedd.
Fe gafodd yr heddlu eu galw wedi adroddiadau am drywanu ar Heol y Barri ychydig cyn hanner nos ar 30 Mehefin 2025.
Bu farw Kamran Aman, oedd yn dad i un, o'i anafiadau ac fe gafodd ymchwiliad llofruddiaeth ei lawnsio.
Fe gafodd Marcus Staniforth, 17 a bachgen 16 oed, nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol, o Lanilltud Fawr, eu harestio yn agos i le gafodd Mr Aman ei lofruddio.
Fe blediodd y ddau yn euog i ddynladdiad, ond wedi gadu llofruddiaeth.
Yn dilyn achos llys yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Rhagfyr 2025, cafwyd y ddau yn euog o lofruddiaeth ac maent bellach wedi eu dedfrydu.
Fe dderbyniodd y ddau ddedfryd am oes.
Fe fydd yn rhaid i Marcus Staniforth, 17, dreulio isafswm o 17 mlynedd dan glo.
Fe fydd yn rhaid i'r bachgen 16 oed nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol, dreulio isafswm o 15 mlynedd dan glo.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Arolygydd Kath Barry, o Heddlu De Cymru: "Roedd Kamran yn ŵr, tad, mab, brawd ac ewythr cariadus. Roedd yn boblogaidd ac yn aelod hoffus o'i gymuned.
"Roedd Kamran yn mynd â bwyd i'w fam oedrannus pan ddigwyddodd yr ymosodiad hwn, gan ddau berson nad oedd yn ei adnabod.
"Ni wnaeth Kamran unrhyw beth i haeddu hyn.
"O fewn mater o funudau, fe newidiodd bywydau teulu Kamran am byth, ac maen nhw dal yn ceisio dod i ddeall sut ddigwyddodd hyn, yn benodol y tu allan i dŷ y maen nhw wedi ei alw yn gartref am bron i 20 mlynedd."